Newyddion S4C

Syr Keir Starmer i addo 'gobaith' ond hefyd 'cyfnodau anodd'

24/09/2024
starmer.png

Mae disgwyl i Syr Keir Starmer addo 'gobaith' yn ei gynhadledd gyntaf ers dod yn brif weinidog.

Ond bydd hefyd yn rhybuddio am "bwysau tymor-byr heriol".

Fe fydd Syr Keir yn dweud yn ystod y gynhadledd Lafur ei fod eisiau "adeiladu Prydain newydd" gyda thwf economaidd cyflymach.

Bydd hefyd yn dweud ei fod eisiau gweld amseroedd aros llai yn yr ysbyty a strydoedd mwy diogel.

Er hynny mae disgwyl iddo ddweud nad oes yna unrhyw atebion hawdd ac nad oedd modd addo "gobaith ffug" am yr heriau i ddod.

Daw ei araith wedi anfodlonrwydd nifer ar ôl i'r blaid gael gwared ar y taliad tanwydd i fwyafrif pensiynwyr.

Mae'r penderfyniad hwnnw, ynghyd â ffraeo wedi i Syr Keir ac uwch-swyddogion eraill y blaid dderbyn rhoddion, wedi cynyddu at densiwn cynyddol yn y blaid yn ddiweddar.

Fe fydd hefyd yn addo y bydd Cyfraith Hillsborough yn cael ei chyflwyno cyn mis Ebrill nesaf.

Fe fydd y gyfraith yn cyflwyno dyletswydd ddidwylledd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus, gyda sancsiynau troseddol i swyddogion neu sefydliadau sy'n camarwain ymchwiliadau.

Mae disgwyl i Syr Keir ddweud: "Cyfraith i Lerpwl. Cyfraith ar gyfer y 97. Cyfraith na ddylai pobl erioed fod wedi bod angen ymladd mor galed i'w chael."
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.