Newyddion S4C

Ymosodiad awyr Israel yn lladd 492 o bobl yn Lebanon

24/09/2024
Beirut, ymosodiad ar Hezbollah

Mae o leiaf 492 o bobl yn Lebanon wedi cael eu lladd yn sgil ymosodiad awyr gan Israel yn ôl gweinyddiaeth iechyd y wlad.

Yn ôl byddin Israel mae 1,600 o dargedau Hezbollah wedi eu taro mewn ymgyrch i ddinistrio isadeiledd.

Mae miloedd o deuluoedd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.

Fe wnaeth Hezbollah yn y cyfamser lansio mwy na 200 o rocedi tuag at ogledd Israel yn ôl eu byddin.

Dywedodd gweinyddiaeth iechyd Lebanon fod 35 o blant a 58 o ferched ymysg y rhai fu farw, tra bod mwy na 1,600 o bobl wedi eu hanafu.

Fe wnaeth Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, fynegi pryder am y tensiwn cynyddol, gan ddweud nad oedd eisiau gweld Lebanon yn "troi yn Gaza arall".

Mae bron i flwyddyn o frwydro rhwng Israel a Hezbollah, a ddechreuodd yn sgil y rhyfel yn Gaza, wedi lladd cannoedd o bobl, a gorfodi degau ar filoedd i adael eu cartrefi.

Mae Hezbollah yn dweud eu bod yn gweithredu mewn cefnogaeth i Hamas, ac na fyddant yn ildio nes y bydd cadoediad yn Gaza.

Mae'r ddau grŵp yn cael eu cefnogi gan Iran, ac yn cael eu disgrifio fel sefydliadau terfysgol gan Israel, y DU. a gwledydd eraill. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.