Galw am fwy o weithredu ym maes gofal dementia i siaradwyr Cymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am weld mwy o weithredu ym maes gofal dementia i siaradwyr Cymraeg.
Mewn papur polisi sydd wedi ei gyhoeddi gan y Comisiynydd, Efa Gruffudd Jones, mae’n nodi mai "ychydig iawn" o gynnydd sydd wedi ei weld ers gwneud argymhellion mewn adroddiad ar y cyd â Chymdeithas Alzheimer’s Cymru yn ôl yn 2018.
Ond mae’r Comisiynydd yn nodi fod rhai camau cadarnhaol wedi eu cymryd yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n croesawu gweld y grŵp dementia a’r Gymraeg yn ail-gychwyn cyfarfod.
Mae'r Comisiynydd yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys sicrhau bod y gwerthusiad o Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia yn casglu profiadau cleifion a gofalwyr sy’n siarad Cymraeg, a sicrhau bod cynllun gweithredu nesaf Cymru ar gyfer dementia yn gosod y Gymraeg fel elfen greiddiol.
Mae hefyd yn galw am yr angen i Lywodraeth Cymru arwain ar lunio cynllun cyflawni penodol "ar gyfer datblygu llwybrau gofal dementia cyfrwng Cymraeg, gan flaenoriaethu meysydd fel casglu data, cynyddu ymwybyddiaeth iaith, asesiadau ac adnoddau, a hyfforddiant ieithyddol".
Swydd benodol
Mae’r Comisiynydd hefyd yn argymell creu swydd benodol ar gyfer arwain ar y Gymraeg a dementia er mwyn sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni.
Dywedodd Efa Gruffydd Jones: “Mae chwe blynedd bellach wedi pasio ers i ni gyhoeddi adroddiad ar ofal dementia i siaradwyr Cymraeg. Mae’r momentwm oedd yn bodoli yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw a sefydlu is-grŵp gweithredu wedi arafu’n sylweddol.
"Rwy’n derbyn y bu i’r pandemig fod yn ffactor yn hynny ond mae angen yn awr ail adeiladu’r momentwm er mwyn gallu cynnig gofal dementia addas drwy’r Gymraeg.
“Rhaid cydnabod fod ‘na rai camau strategol a statudol arwyddocaol wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diweddar. Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol bellach dan ddyletswydd i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.
“Mae’r ffaith fod y grŵp dementia a’r Gymraeg wedi cychwyn cyfarfod eto hefyd i’w groesawu’n fawr, ac rwyf yn gobeithio gweld y grŵp hwn yn cyfrannu at broses Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun dementia newydd ar gyfer Cymru."
Ychwanegodd: “Araf yw’r symud ac wrth i ni nodi ein hargymhellion rydym yn annog hefyd creu swydd benodol er mwyn arwain ar y gwaith hyn achos dyna’r unig ffordd, yn fy marn i, y gallwn symud ymlaen yn briodol ac yn amserol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth yn cydnabod fod y Gymraeg yn "elfen allweddol o ofal, yn enwedig wrth drafod pryderon sensitif ac emosiynol a phan fydd cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn newid i'w hiaith gyntaf."
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn gweithio i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros bum mlynedd.
"Mae'r grŵp Dementia a'r Iaith Gymraeg wedi ailsefydlu'n ddiweddar, a bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth yn y trefniadau sy’n dilyn y Cynllun Gweithredu ar Ddementia."