'Eithriadol o drist': Gwasanaeth i nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofa Gresffordd
Fe gafodd gwasanaeth ei gynnal fore dydd Sul i nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofa Gresffordd.
Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear pan rwygodd ffrwydrad trwy'r pwll yn oriau mân y bore ar 22 Medi, 1934.
Roedd nifer y gweithwyr ar y safle yn llawer mwy na'r arfer gan fod nifer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn iddyn nhw allu gwylio gêm bêl-droed yn Wrecsam yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dim ond chwech o'r glöwyr o'r rhan honno o'r pwll glo a lwyddodd i ddringo allan o'r mwg a'r llwch, a'r tanau tanddaearol cynddeiriog a oedd yn llosgi eu cydweithwyr.
Bu farw 266 o ddynion a bechgyn y diwrnod hwnnw.
Yn eu gêm bêl-droed ddydd Sadwrn yn erbyn Crawley Town, fe wnaeth Clwb Pêl-droed Wrecsam wisgo eu cit du oddi cartref yn y Cae Ras yn hytrach na’u cit coch arferol.
Roedd teyrngedau cyn y gêm hefyd, gyda munud o dawelwch a pherfformiad o Emyn Glowyr Gresffordd gan fand Llai.
Bydd tîm menywod y clwb yn gwisgo’r cit du yn eu gêm yn erbyn Llansawel ddydd Sul hefyd. Mae’r cit yn cynnwys patsh sydd yn cynnwys lamp cloddio ac olwyn lofaol.
Inline Tweet: https://twitter.com/FAWales/status/1837750427305079181
Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Gresffordd roi teyrnged, gan ddweud: “Mae Gresffordd yn parhau i gofio’r drasiedi hon a ysgydwodd ein cymuned yn Wrecsam. 90 mlynedd yn ddiweddarach, ni fyddwn byth, byth yn anghofio'r 266 o ddynion a gollodd eu bywydau.”
Roedd gwasanaeth coffa blynyddol i nodi’r trychineb yn cael ei gynnal am 11.00 ddydd Sul ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy.
Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Beryl Blackmore: “Mae trychineb pwll glo Gresffordd yn rhan eithriadol o drist o hanes Wrecsam.
“Yn anffodus, fe wnaeth bron i bob pentref yn y sir golli rhywun o ganlyniad i’r trychineb yma a gadawyd llawer o famau, gweddwon a phlant mewn galar.
“Rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r pris y gwnaethant ei dalu yn enw glo.”
Llun: Clwb Pêl-droed Gresffordd / Tony Bennett (Art UK)