Cefnogwyr Caerdydd yn cynnal digwyddiadau i gofio am Sol Bamba
Bydd cefnogwyr Caerdydd yn cofio am eu cyn-gapten Sol Bamba yn eu gêm yn erbyn Leeds United ddydd Sadwrn.
Bu farw'r cyn amddiffynnwr yn Nhwrci fis diwethaf yn 39 oed.
Roedd yn gyfarwyddwr technegol i glwb Adanaspor yn ail adran Twrci, ac fe gafodd ei daro’n wael cyn gêm. Cafodd ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno'n ddiweddarach.
Fe fydd yr Adar Gleision yn cynnal digwyddiadau cyn ac yn ystod eu gêm ddydd Sadwrn i gofio am chwaraewr a wnaeth ymddangos mewn 118 o gemau dros y clwb.
Inline Tweet: https://twitter.com/CardiffCityFC/status/1837401385253437846
Fe chwaraeodd hefyd dros wrthwynebwyr Caerdydd, Leeds, yn ogystal â Hibernian, Caerlŷr a Middlesbrough.
Mae’r clwb yn gofyn i gefnogwr o’r naill dîm i fod yn eu seddi am 14.45, 15 munud cyn y gic gyntaf, wrth i deyrnged arbennig gael ei chynnal.
Bydd cyn chwaraewyr, chwaraewyr presennol a chefnogwyr yn cymryd rhan, gydag aelodau o deulu Sol Bamba a’i ffrindiau hefyd yn bresennol yn y gêm.
Bydd cynrychiolwyr o Leeds United yn gosod blodau ar y cae cyn y gic gyntaf, ac fe fydd munud o gymeradwyaeth yn cael ei chynnal.
Yna wedi 14 munud o’r gêm, fe fydd cefnogwyr yn ei gymeradwyo unwaith eto, i nodi’r ffaith mai’r crys rhif 14 a wisgodd y gŵr o’r Arfordir Ifori dros yr Adar Gleision.