Newyddion S4C

'Her anoddaf fy mywyd': Rhedeg pedwar hanner marathon mewn pedwar diwrnod

'Her anoddaf fy mywyd': Rhedeg pedwar hanner marathon mewn pedwar diwrnod

Fe fydd dyn ifanc o Abertawe yn dechrau ar "her anoddaf" ei fywyd pan fydd yn rhedeg pedwar hanner marathon mewn pedwar diwrnod i godi ymwybyddiaeth am heriau iechyd meddwl.

Ar 3 Hydref bydd Tom Moore yn cychwyn ar ei hanner marathon cyntaf yn Llanelli, cyn cwblhau tri arall yng Nghasnewydd, Abertawe a gorffen trwy redeg hanner marathon swyddogol Caerdydd.

Roedd y dyn 24 oed wedi dioddef gydag iselder a gorbryder am rai blynyddoedd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei fod yn dioddef pan ddechreuodd yn y brifysgol yng Nghaerdydd.

"O'dd iechyd fi jyst 'di mynd yn wa'th achos 'bywyd prifysgol'," meddai wrth Newyddion S4C.

"Weithiau o'n i'n teimlo fel 'beth fi'n neud?' O'dd dim 'da fi ffordd o dianc. O'n i'n meddwl o'dd dianc fi o'dd mynd mas, joio, yfed.

"Ond weithiau o'n i'n teimlo fel o'dd hwnna'n neud e'n wa'th."

Ar ôl symud i Gaerdydd roedd mam Tom wedi derbyn diagnosis o ganser y fron, a oedd wedi dwysáu ei iselder a'i orbryder.

"O'dd 'da fi lot o problemau gatre 'da iechyd teulu," meddai.

" So o'dd hwnna 'di adio pwysau meddyliol a kind of adio i anxiety a depression 'ma."

'Bywyd cwbl wahanol'

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl bydd Tom Moore yn codi arian i elusen Samariaid Cymru.

Trwy gydol yr her fe fydd yn rhedeg dros 80km, yr her anoddaf iddo wneud erioed, meddai.

Ers dechrau rhedeg ac ymarfer yn y gampfa yn gyson mae Tom wedi colli dros chwe stôn.

Pe bai wedi gwneud hynny rhai blynyddoedd yn ôl, fyddai ei fywyd wedi bod yn "wahanol iawn".

Image
Tom Moore
Tom Moore yn ystod ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Yn edrych nôl nawr, bydde bywyd fi 'di bod yn cwbl wahanol fi'n credu, os dyddiau 'na bydden i wedi dianc trwy mynd mas am run neu mynd i'r gym," meddai.

"Dyna shwt fi'n delio 'da popeth nawr. Fel, weithiau, diwrnod caled o gwaith, shwt i fi'n delio? Jyst mynd mas, rhedeg fi jyst yn joio cael awr 'na. 

"Achos ma fe'n run hawdd, jyst mynd mas, clustffonau 'mlaen, podcast neu miwsig, beth bynnag fi mo'yn gwrando i. Jyst awr i fi ar ben fy hunan delio 'da fe."

Ychwanegodd: "Fi'n gwybod ers i fi 'di dechrau rhedeg go iawn, a 'di bod yn mynd i'r gym, ma' hwnna 'di helpu iechyd fi sydd wedyn in return, wedi helpu anxiety fi a popeth. So ma hwnna yn huge thing 'fyd.

"Bydd hwn yn sicr yn her anoddaf fy mywyd, ond fi'n barod amdani ac eisiau gwneud fy rhan a codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl."

Image
Tom Moore
Wrthi'n ymarfer: Tom allan yn rhedeg wrth ymarfer ar gyfer yr her.

'Pawb yn gallu gwrando'

Yn ôl ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae cyfradd hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr ar eu huchaf ers dros 20 mlynedd.

Mae Samariaid Cymru wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i geisio mynd i'r afael ag atal hunanladdiad ymhlith dynion.

Dywedodd Sian Vaughan Jones o Samariaid Cymru wedi rhoi pwyslais ar wrando wrth siarad am iechyd meddwl.

"Ma' gallu siarad efo rhywun sydd yn barod i wrando ac yn ymateb a gwir yn trio estyn help, mor bwysig i'r unigolyn sydd angen yr help," meddai.

"Achos ma' nhw'n teimlo wedyn mae 'na werth i be ma' nhw'n ddeud, bod 'na rywun yn gwrando ac efallai bod o'n haws iddyn nhw wedyn i fynd ymlaen i siarad efo rhywun proffesiynol, rhywun sydd yn deall eu  problemau nhw yn fwy 'llu.

"Ma' pawb yn gallu gwrando, does na'm angen sgiliau nag hyfforddiant arbennig. Ma' pawb yn gallu dangos i'r pobl sydd yn dioddef eu bod nhw yn gwrando ac yn eu cymryd nhw o ddifri."

'Ffodus'

Pan oedd Tom Moore yn dioddef gyda'i broblemau iechyd meddwl, roedd ganddo'r cymorth o'i ffrindiau a'i deulu.

Roedden nhw wedi helpu Tom i siarad allan am ei broblemau, meddai.

"Fi'n ffodus, trwy y pedair, pump blynedd diwethaf ma' 'da fi teulu fi 'di gallu troi at," meddai.

"Ma nhw'n deall fi, ma' 'da fi ffrindiau a ma' ffrindiau fi yn gwych 

"Ie ni'n grŵp o ffrindiau sy' wastod yn trial cymryd y mic neu cael jôc, ond os ma' problem 'na, ma' pawb yn gwrando. Allen ni cael chat be' bynnag.

"Ond fi'n ffodus ma' 'da fi hwnna. Fi'n ffodus fi 'di gallu delio 'da hwn ond ma' pob sy' ddim. 

"A weithie 'na gyd sy' angen yw jyst cael chat 'na, release that first bit of pressure a wedyn ma' popeth yn sorto'i hun."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.