Newyddion S4C

Dros hanner ysgolion Cymru yn 'wynebu toriadau i wasanaethau a staff'

ITV Cymru
dosbarth (Llyw Cym)

Mae dros hanner ysgolion Cymru yn dweud eu bod nhw’n wynebu diffygion cyllidebol fydd yn eu gorfodi i wneud toriadau i staff a gwasanaethau, yn ôl prifathrawon. 

Mae Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru yn adrodd bod mwy na 27% o arweinwyr ysgolion yn wynebu pwysau ariannol am y tro cyntaf y flwyddyn hon. 

Mae’r Gymdeithas yn dweud bod athrawon yn poeni na fydden nhw’n gallu “diwallu anghenion eu holl ddisgyblion yn llawn” heb gyllid ychwanegol. 

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y nifer o benaethiaid gyda phryderon am eu cyllidebau bron wedi dyblu mewn blwyddyn. 

Dywed adroddiad y Gymdeithas bod:

  • 27% o benaethiaid wedi adrodd diffygion ariannol dros y flwyddyn ysgol 2023/24.

  • 53% o benaethiaid wedi adrodd diffygion ariannol dros y flwyddyn ysgol 2023/24.

'Argyfwng'

Mae'r adroddiad yn rhoi'r bai ar chwyddiant, cyflogau cynyddol, staff cyflenwi a fformiwlâu ariannu lleol am y diffygion enfawr y mae rhai ysgolion yn eu profi.

Dywedodd Chris Parry, llywydd NAHT Cymru: “Does gan arweinwyr ysgol lle i'w droi. Er mwyn ymdopi, mae'n rhaid iddynt dorri staff, lleihau gwasanaethau cymorth, a chyfaddawdu adnoddau dysgu hanfodol.

“Dylai’r canfyddiadau bwysleisio’r angen i weithredu ar unwaith i Lywodraeth Cymru. Mae’r argyfwng ariannu yn bygwth ansawdd addysg, a heb ymateb clir, strategol, ni fydd ysgolion yn gallu darparu’r cymorth sydd ei angen ar ddisgyblion a staff. Mae ateb hirdymor yn hanfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae swm y cyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer cyllidebau ysgolion, gan gynnwys cyllid ar gyfer staff ysgol, i’w benderfynu gan awdurdodau lleol, nid ydym yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol.

“Rydym wedi cynyddu cyllid llywodraeth leol ac wedi ail-flaenoriaethu’r gyllideb Addysg fel y gallwn ni diogelu cyllid ysgolion cymaint â phosibl, gan wario mwy mewn ardaloedd sydd dan y pwysau mwyaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.