Caernarfon: Carcharu dyn am ddifrod troseddol wedi’i waethygu gan hiliaeth
Mae dyn wedi ei garcharu am bedwar mis am ddifrod troseddol wedi ei waethygu gan hiliaeth wrth gael ei gludo i’r ddalfa yng Nghaernarfon.
Roedd Owen Cyster, 59, o Glwt-y-bont yng Ngwynedd wedi llafarganu “Tommy, Tommy, Tommy Robinson” a cham-drin swyddogion yn eiriol wrth gael ei arestio.
Cafodd ei arestio ar 1 Awst pan oedd terfysg yn digwydd yn Lloegr.
Bwrodd ei ben yn erbyn sgrin Perspex yn y car a’i dorri, yn ôl adroddiadau o’r fan a’r lle. Roedd y sgrin Perspex wedi chwalu ac wedi ei orchuddio mewn gwaed a phoer.
Cyfaddefodd Owen Cyster i ddifrod troseddol wedi ei waethygu gan hiliaeth a’i garcharu ddydd Gwener.
Chwaraewyd lluniau o gamera corff gan yr heddlu yn y llys.
Dywedodd yr Ustus Nicola Saffman, oedd yn eistedd yn Llandudno, bod y swyddogion wedi ofni am ei diogelwch eu hunain.
Dywedodd wrth Cyster ei fod wedi dangos “safbwyntiau sydd wedi eu gwreiddio’n ddwfn am bobl nad ydyn nhw o’r un hil â chi.”
Dywedodd cwnsler yr amddiffyniad Dafydd Roberts: “Mae Mr Cyster yn derbyn yn agored iddo golli ei ben yn y car heddlu.”
Dywedodd nad oedd wedi bod mewn trafferthion gyda’r heddlu ers 2011 ac roedd yn edifar.
Roedd yn rhwystredig gyda Heddlu Gogledd Cymru ac roedd ganddo broblemau gyda'i iechyd meddwl.
“Nid yw’n falch o’r ffordd y gwnaeth ymddwyn y diwrnod hwnnw,” ychwanegodd Mr Roberts.