Pum menyw yn honni bod Mohamed Al Fayed wedi eu treisio
Mae pum menyw wedi dweud bod cyn-berchennog Harrods, y diweddar Mohamed Al Fayed, wedi eu treisio pan fuon nhw’n gweithio yn y siop yn Llundain.
Mae dros 20 o gyn-weithwyr benywaidd wedi rhannu cyhuddiadau o ymosodiadau a thrais corfforol gan y dyn busnes mewn lleoliadau yn Llundain, Paris, St Tropez a Dubai, fel rhan o ymchwiliad gan y BBC.
Yn eu plith mae cyhuddiadau o dreisio. Bu farw Mr Al Fayed y llynedd yn 94 oed.
Dywedodd perchnogion presennol Harrods eu bod wedi eu “brawychu’n llwyr” gan yr honiadau o gam-drin yn ei erbyn, gan ychwanegu: “Fel busnes, fe wnaethon ni adael ein gweithwyr a oedd yn ddioddefwyr iddo i lawr, ac am hyn, rydyn ni’n ymddiheuro’n ddiffuant.”
Fe wnaeth un fenyw, Gemma, a weithiodd fel cynorthwyydd personol i Mr Al Fayed rhwng 2007 a 2009 yn ei sefydliad elusennol, ddweud ei bod dal yn “ofni rhywun nad yw’n fyw mwyach.”
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y byddai “wedi bod yn rhy ofnus” i adrodd yr hyn ddigwyddodd iddi hi tra'r oedd yn dal yn fyw.
Dywedodd ei fod yn “ofynnol” arni hi i gael profion gynaecolegol i gael ei swydd, ac mae hi wedi dweud ei bod yn credu mai prawf am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol oedd y prawf.
Mae hi’n honni i Mr Al Fayed ddechrau ei aflonyddu’n rhywiol “yn syth” ar ôl dechrau’r swydd, drwy wneud sylwadau o natur rywiol a’i chyffwrdd.
Cloi
Dywedodd wrth y rhaglen fod Mr Al Fayed wedi ceisio dod i mewn i’w hystafell ar sawl taith gwaith, gan sôn am orfod cloi ei hun mewn ystafelloedd ymolchi a’i anwybyddu pan fyddai’n dod i’r drws.
Mae hi hefyd yn honni iddo ei threisio yn ystod trip i Baris.
“Hyd yn oed nawr, yr wythnosau diwethaf hyn, mae gorfod ail-fyw’r holl brofiadau hynny wedi dod â’r ofn yn ôl,” meddai Gemma.
“Ac rydw i nawr yn cerdded o gwmpas yn teimlo'n ofnus o rywun sydd wedi marw oherwydd roedd ganddo'r pŵer hwnnw drosoch chi ac mae'n wallgof fy mod hyd yn oed heddiw wedi fy ofni gan rywun nad yw'n fyw bellach.”
Fe ddaeth yr Eifftiwr Mohamed Al Fayed yn berchennog ar Harrods yn 1985, ac yn ddiweddarach fe brynodd Glwb Pêl-droed Fulham.
Bu farw ei fab Dodi, a’i gariad yntau, y Tywosoges Diana, mewn gwrthdrawiad car yn 1997.
Cyhuddiadau
Roedd Mr Al Fayed wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ac aflonyddu sawl menyw pan oedd yn fyw, ond ni wnaeth ymchwiliad gan yr heddlu yn 2015 arwain at unrhyw gyhuddiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Harrods bod y sefydliad bellach yn un “gwahanol iawn” i’r un yr oedd Mr Al Fayed yn berchen arno am 25 mlynedd.
“Dyma pam, ers i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg yn 2023 am honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol gan Al Fayed, mae wedi bod yn flaenoriaeth i ni setlo hawliadau yn y ffordd gyflymaf bosibl, gan osgoi achosion cyfreithiol hirfaith i’r menywod dan sylw.
“Mae’r broses hon yn dal i fod ar gael i unrhyw weithwyr presennol neu gyn-weithwyr Harrods.”