Rhybudd am ‘fellt, gwynt a chenllysg mawr’ i rannau o Gymru wrth i’r tywydd braf ddod i ben
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i rannau o Gymru wrth i law trwm a tharanau ddod â chyfnod o dywydd braf i ben ddydd Gwener.
Bydd “mellt, gwynt a rhywfaint o genllysg mawr o bosibl” yn ogystal â “chyfnodau byr o law trwm,” rhwng 01.00 fore Sadwrn a hanner nos.
Bydd rhai llefydd yn aros yn sych ond fe allai stormydd mellt a tharanau a chawodydd trymion achosi trafferthion medden nhw.
Mae’r rhybudd yn gorchuddio y rhan fwyaf o ganolbarth a de ddwyrain Cymru ond yn osgoi arfordir y gorllewin.
Mae yna siawns y gallai 30-40mm o law syrthio mewn awr mewn rhai mannau.
Fe allai achosi llifogydd a thoriadau trydan medden nhw.
Mae’r rhybudd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Caerdydd
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
Torfaen