Newyddion S4C

Arweinydd gang cyffuriau o fferm yn Sir Gâr wedi ei charcharu ar ôl bod ar ffo

Lynne Leyson

Mae menyw o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei harestio ar ôl bod ar ffo am 16 mis wedi ymddangos yn y llys a'i charcharu.

Ym mis Mai 2023, fe gafodd Lynne Leyson o Fferm Pibwr, Capel Dewi ger Caerfyrddin ei dyfarnu'n euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B, a bod â deunydd troseddol yn ei meddiant.

Roedd hi wedi teithio'n eang ar draws Prydain yn ystod yr 16 mis pan oedd yn rhydd.

Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth eulsen Crimestoppers gynnig gwobr o £1000 am wybodaeth am ei lleoliad.

Cafodd ei dedfrydu yn ei habsenoldeb i naw mlynedd o garchar ar 15 Medi 2023 wedi iddi ffoi o afael yr heddlu.

Cafodd ei harestio ddydd Llun 16 Medi ar Fferm Pibwr ar ôl iddi hi ddychwelyd i ardal Heddlu Dyfed-Powys ar nos Sul 15 Medi.

Cafodd menyw 26 oed hefyd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo torseddwr ac mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.

Fe wnaeth Leyson ymddangos yn Llys y Goron Abertawe fore Mawrth, cyn cael ei throsglwyddo i’r ddalfa, i gychwyn ar ei dedfryd. 

Fe fydd Leyson yn ymddanos nesaf yn y llys ar ddydd Gwener 4 Hydref.

Image
Pibwr
Arian parod, cyffuriau a gwn oedd ar safle Fferm Pibwr

Roedd Leyson yn un o chwech o bobl a gafodd eu harestio yn dilyn gwarant yn Fferm Pibwr, Caerfyrddin, ym mis Hydref 2021, ar ôl i swyddogion ganfod 592g o gocên gwerth rhwng £47,750 a £60,000, 1.4kg o ganabis gwerth £15,615, a dros £17,000 o arian a gwn.

Fe gafwyd ei gŵr Stephen Leyson yn euog o fod â gwn yn ei feddiant, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i 11 mlynedd o garchar.

Cafwyd eu mab Samson yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a chyffuriau dosbarth B a'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.

Roedd eu ffrind teuluol, Andrew Jenkins, yn euog o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth B.

Plediodd Ritchie Coleman ac Emma Calver-Roberts yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B ar ôl ymchwiliad pellach. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.