Newyddion S4C

Rhybudd melyn am niwl mewn mannau fore dydd Llun

16/09/2024
niwl

Mae rhybudd melyn am niwl wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o ogledd ddwyrain Cymru fore dydd Llun.

Fe all achosi oedi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a theithiau mewn ceir.

Fe allai hediadau gael eu heffeithio hefyd.

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 05:00 a 10:00 ar gyfer y siroedd canlynol:


•    Sir y Fflint
•    Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.