Cynnal gorymdaith ym Machynlleth dros ddeddf eiddo
Cynnal gorymdaith ym Machynlleth dros ddeddf eiddo
Fe gafodd gorymdaith ei chynnal drwy strydoedd Machynlleth ddydd Sadwrn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddf eiddo.
Bwriad gorymdaith ‘Nid yw Cymru ar werth’ oedd tynnu sylw at ymgyrch i fynnu bod “Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Deddf Eiddo er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg”.
Dywedodd y trefnwyr: “Byddai Deddf Eiddo’n sefydlu hawl gyfreithiol pobl Cymru i gartref, sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen cymunedol yn hytrach nag asedau ariannol, a hwyluso perchnogaeth leol a mentrau cymunedol o eiddo.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru "fod gan bawb hawl i gartref teilwng".
Fe gynhaliwyd yr orymdaith ddeuddydd cyn Ddiwrnod Owain Glyndŵr sy’n nodi 624 mlynedd ers ei goroni’n dywysog Cymru, ac ym Machynlleth cynhaliodd Owain Glyndŵr ei Senedd.
Wrth annerch yr ymgyrchwyr, dywedodd yr aelod seneddol a dirprwy arweinydd Plaid Cymru Delyth Jewell: “Yma ym Machynlleth roedd safle ein senedd-dy cyntaf, pair pob prawf, cysegr-le ein hanian. Croesffordd lle mae’n hanes a’n presennol yn cwrdd. Mae olion Glyndŵr ar y strydoedd o hyd – ond brwydr heddiw, nid ddoe, sy’n ein galw ni ynghyd.
“’Nid yw Cymru ar werth’: dyna’n geiriau, a galwad ydy’r geiriau. I uno, i herio, i ddyfalbarhau: galwad sy’n dangos na fyddwn yn ildio.”
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis o Gymdeithas yr Iaith: “Yr ydym yn wynebu argyfwng. Mae ein pobl ifanc yn cael eu halltudio o’u cymunedau ac yn methu cael cartrefi i fyw ynddynt.
“Roedd yna addewid am Bapur Gwyn gan y llywodraeth dros yr haf. Ond rydyn ni yn dal i aros amdano. Yr oedi tragwyddol yna unwaith eto! Os daw cyn diwedd y flwyddyn, gobeithio y bydd yn un radical. Un fydd yn sicrhau hawl statudol i gartref i bobl yn eu cymuned a hynny am bris sy’n fforddiadwy ac sy’n adlewyrchu’r cyflogau lleol.
“Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond dydi hynny yn bendant ddim yn mynd i ddigwydd os na all pobl ifanc fforddio byw yn eu cymunedau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn gwireddu’r potensial hwnnw mewn ffordd sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirweddau ac ymwelwyr.
"Credwn fod gan bawb hawl i gartref teilwng, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol. Mae'r newidiadau i'r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi wedi'u cynllunio i helpu. datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu’n rhedeg busnesau.
“Byddwn yn parhau i fonitro effeithiau’r ddeddfwriaeth hon i sicrhau ei bod yn cyflawni’r nodau a fwriadwyd.”