Newyddion S4C

Y Pab yn annog pobl i ddewis y 'drwg lleiaf' rhwng Trump a Harris

14/09/2024
Y Pab Ffransis

Mae’r Pab Ffransis wedi cyhuddo’r ddau ymgeisydd arlywyddol yn America o fod “yn erbyn bywyd” ac wedi cynghori pleidleiswyr Catholig i ddewis y “drwg lleiaf” wrth fwrw eu pleidleisiau yn yr etholiad ym mis Tachwedd.

Dywedodd y Pab Ffransis, sy’n 87 oed, fod peidio â chroesawu ymfudwyr - gan gyfeirio at Trump i bob golwg - yn bechod “difrifol”, a chymharodd safiad Kamala Harris ar erthyliad i “lofruddiaeth”.

Dywedodd mewn cynhadledd newyddion wrth iddo orffen taith 12 diwrnod yn ne-ddwyrain Asia: “Mae’r ddau yn erbyn bywyd, boed yr un sy’n cicio ymfudwyr allan, neu boed yr un sy’n lladd babanod.”

Ni chyfeiriodd y Pab at Ms Harris na Mr Trump wrth eu henwau yn ei sylwadau.

Mae 52 miliwn o Gatholigion yn America ac mae’r Pab Ffransis wedi annog Americanwyr i bleidleisio.

"Mae peidio â phleidleisio yn hyll. Nid yw'n dda. Rhaid i chi bleidleisio," meddai.

" Rhaid i chi ddewis y drwg lleiaf. Pwy yw'r drwg lleiaf? Y foneddiges honno, neu'r boneddwr hwnnw? Ni wn i. Mae pawb, mewn cydwybod, (yn gorfod) meddwl a gwneud hyn."

Mae'r Pab yn aml wedi beirniadu erthyliad, sy'n cael ei wahardd gan ddysgeidiaeth Gatholig.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.