Newyddion S4C

Mr Bates vs The Post Office yn ennill tair gwobr yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol

12/09/2024

Mr Bates vs The Post Office yn ennill tair gwobr yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol

Mae Mr Bates vs The Post Office wedi ennill sawl gwobr yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol.

Fe gipiodd y ddrama ITV, sy'n dilyn hanes cyn is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam gan Swyddfa'r Post, dair gwobr nos Fercher.

Fe enillodd yr actor Toby Jones, sy'n chwarae rhan y cyn is-bostfeistr o ogledd Cymru, Syr Alan Bates, y perfformiad drama gorau, gyda'r ddrama ei hun yn ennill y ddrama newydd orau.

Fe gyhoeddwyd bod y gyfres hefyd wedi derbyn y wobr effaith ar ôl annog "gwleidyddion i siarad a newid deddfwriaeth".

Wrth dderbyn y wobr effaith, dywedodd y cyn is-bostfeistr Jo Hamilton nad oes "dim byd wedi newid".

"Dyw'r rhan fwyaf o'r bobl hyn heb gael eu talu eto," meddai, gan bwyntio at y cyn is-bostfeistri y tu ôl iddi ar y llwyfan.

"Cefnogwch Alan Bates pan ddaw’n ôl i’r genedl am gymorth."

Yna fe nododd Ms Hamilton fod dros 300 o is-bostfeistri yn dal i ddisgwyl am iawndal.

A dim ond 30% o'r hyn y mae Syr Alan yn ceisio ei hawlio sydd wedi ei gynnig iddo hyd yma, meddai.

Mae'r Cymro bellach yn gweithio ar gynllun newydd i sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn yr hyn y maent yn ei haeddu.

Image
Syr Alan Bates
Fe wnaeth y cyn is-bostfeistr Syr Alan Bates dderbyn gradd er anrhydedd gan Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf

Roedd Syr Alan yn un o dros 550 o weithwyr a ddaeth ag achos cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post am wallau system gyfrifiadurol Horizon rhwng 2017 a 2019.

Cafodd mwy na 700 o is-bostfeistri eu herlyn a derbyn euogfarnau rhwng 1999 a 2015, wrth i system ddiffygiol Fujitsu wneud iddi ymddangos fel petai arian ar goll yn eu canghennau.

Roedd Syr Alan wedi bod yn rhedeg y Swyddfa Bost yn ei siop yng Nghraig-y-Don, ger Llandudno, ers blynyddoedd heb unrhyw broblem.

Yn fuan ar ôl i system gyfrifo Horizon gael ei chyflwyno, dechreuodd anghysondebau anesboniadwy ymddangos.

Er iddo gwyno sawl tro i Swyddfa'r Post am y system newydd, yn 2003, cafodd cytundeb gwaith Syr Alan ei ddarfod heb reswm.

Roedd hyn yn golygu colli ei fuddsoddiad o dros £60,000 yn ei siop.

Fe sefydlodd Syr Alan ymgyrch yn 2009, ac fe arweiniodd hyn at ddileu euogfarnau yn erbyn yr is-bostfeistri.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.