Newyddion S4C

Cyfarfod cyhoeddus yng Nghasnewydd i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2027

12/09/2024
Eisteddfod yr Urdd

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd wedi i gyngor y ddinas gyhoeddi ei fod yn cynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd 2027. 

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, a hynny er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu gyda gwirfoddolwyr lleol. 

Os caiff ei ddewis, hwn fydd y tro cyntaf i Gasnewydd gynnal yr ŵyl.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd y Cynghorydd Emma Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant: "Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru yn awyddus i ddod ag Eisteddfod 2027 i Gasnewydd, ac o gael cynnig cefnogaeth ffurfiol y cyngor i'r cynigion.

“Rydym yn awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr."

Cyhoeddodd Cyfarwyddwr y Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru, Llio Maddocks, ar y pryd ei bod yn “hynod o ddiolchgar” i’r awdurdod lleol am eu "cefnogaeth i’r mudiad â’n gŵyl".

“Braf iawn oedd clywed am gefnogaeth aelodau o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i wahodd Eisteddfod yr Urdd i’r ardal yn 2027,” meddai. 

Eleni, fe gafodd yr ŵyl ei chynnal ym Maldwyn, ger Meifod. 

Bydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yn cael ei chynnal ym Mharc Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.