Caerdydd: Tair blynedd o garchar i yrrwr wedi i feiciwr golli coes
Mae menyw o Gaerdydd wedi cael ei charcharu am dros dair blynedd ar ôl i feiciwr golli coes ar ôl cael ei daro gan ei char.
Fe wnaeth Savannah Roberts, 27 oed, fwrw'r beiciwr am 02:25 ar ddydd Gwener 5 Awst 2022 ar Stryd Penarth yn y brifddinas.
Roedd hi wedi stopio a dychwelyd i leoliad y digwyddiad cyn gyrru ffwrdd a gadael y beiciwr, oedd wedi dioddef anafiadau difrifol, ar ochr y ffordd.
Cafodd y beiciwr ei gludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd cyn cael ei symud i Ysbyty Treforys yn Abertawe, lle penderfynwyd bod rhaid torri ei goes i ffwrdd.
Wedi'r ddamwain gwerthodd Savannah y car i geisio cuddio unrhyw gysylltiad rhyngddi hi a'r ddamwain.
Ond cafodd y car ei gysylltu â Savannah a chafodd ei harestio, ar ôl cael ei gweld yn gyrru trwy olau coch.
Cafodd ei charcharu am dair blynedd a naw mis am achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.