Newyddion S4C

Ceredigion: Arestio dyn ar ôl i fenyw cael ei chludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad

10/09/2024
Yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llangybi

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i fenyw gael ei chludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic modur.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng tryc Toyota du a beic modur Harley Davidson glas wedi digwydd ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llangybi toc cyn 15:00 ddydd Llun.

Cafodd y fenyw oedd yn gyrru'r beic modur ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu ei bywyd.

Cafodd dyn 66 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf wrth yrru'n beryglus ond mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ac maen nhw'n gofyn i unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng neu wybodaeth all helpu gyda'r ymchwiliad i gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 211 ar y 9fed.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.