Tywysoges Cymru 'wedi cwblhau triniaeth cemotherapi'
Mae Tywysoges Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i ddyletswyddau cyhoeddus ar ôl cwblhau triniaeth cemotherapi.
Cyhoeddodd Palas Kensington ym mis Mawrth fod y dywysoges yn derbyn triniaeth am ganser.
Dywedodd y Palas ei bod wedi dechrau derbyn triniaeth cemotherapi fis Chwefror.
Fe gafodd y canser ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.
Mewn fideo a gafodd ei chyhoeddi ddydd Llun ynghyd â'i gŵr, William Tywysog Cymru a'u tri o blant, mae'r dywysoges yn disgrifio'r naw mis diwethaf fel rhai "hynod o anodd i ni fel teulu", gan ychwanegu fod "taith ganser yn anodd, ofnus ac anrhagweladwy i bawb".
Ychwanegodd: "Fy ffocws bellach ydy gwneud beth y gallaf i sicrhau fy mod i'n rhydd o ganser. Er fy mod i wedi gorffen cemotherapi, mae fy nhaith i wellhad llawn yn hir ac mae'n rhaid i mi barhau i gymryd bob dydd fel mae'n dod.
"Ond dwi'n edrych ymlaen at fod yn ôl yn gweithio ac ymgymryd ag ychydig yn fwy o ddyletswyddau cyhoeddus yn y misoedd nesaf pan yn bosib."