John y Graig, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Hoelion Wyth, wedi marw'n 99 oed
Mae teyrnged wedi ei rhoi i John y Graig, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Hoelion Wyth, sydd wedi marw yn 99 oed.
Dywedodd John Jones, Ystrad Meurig, Cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth, fod John y Graig wedi gwneud cyfraniad “amhrisiadwy am flynyddoedd maith dros y Gymdeithas”.
Roedd John 'y Graig' Davies o Fferm y Graig, Aberporth yn un o bedwar o gyd sylfaenwyr yr Hoelion Wyth, mudiad cymdeithasol i ddynion sydd a changhennau ar draws gorllewin Cymru, nôl yn 1973.
Ar y cyd â Dai Jones Llanilar, Delme Thomas a Caradog Jones roedd yn un o’r ychydig oedd wedi derbyn anrhydedd gan y gymdeithas am gyfraniad oes i’r Hoelion Wyth, meddai John Jones.
“Mae enw John Y Graig yn gorwedd yn gysurus yn eu plith,” meddai.
“Parchwyd ei farn gadarn a’i sylwadau craff ar bod achlysur.
“Anfonwn ein cydymdeilad diffuant at ei deulu wrth i ni ffarwelio a’r hoelen loywaf yn ein Cymdeithas, un yn sicr na welwn mo’i debyg fyth eto.”
Fe fyddai wedi dathlu ei benblwydd yn 100 ar y 6ed o Fawrth 2025.
Wrth siarad a Newyddion S4C yn 2017 dywedodd mai ei gyfrinach oedd “yfed llaeth ewyn yn blentyn ac yfed gwin coch wrth fynd yn hen”.
Roedd ei wraig yn un o’r rhai sefydlodd Merched y Wawr yn Aberporth a dywedodd fod hynny wedi rhoi’r syniad iddo sefydlu yr Hoelion Wyth.
“Ro’n i’n meddwl pam lai i’r bechgyn gael rywbeth yn debyg,” meddai.
Roedd y Prifardd Dic Jones hefyd yn un o’r sefydlwyr yn Aberporth.
Sefydlwyd canghennau eraill yn Hen-dy Gwyn, Wes Wes yn ardal Tŷ Ddewi, Siôn Cwilt, Cors Caron, a Beca yn Efailwen.