'Degawdau o fethiannau' wedi arwain at dân Tŵr Grenfell medd adroddiad damniol
'Degawdau o fethiannau' wedi arwain at dân Tŵr Grenfell medd adroddiad damniol
Saif Tŵr Grenfell yn destament i'r trychineb.
Er wedi'i orchuddio o hyd, does dim modd mwyach cuddio'r methiannau yma.
Mae canlyniadau'r ymchwiliad yn ddiflewyn ar dafod.
Cwmniau anonest, diffygion y Gwasanaeth Tân a phenderfyniadau sawl llywodraeth.
"The simple truth is, the deaths that occurred were all avoidable.
"Those who lived in the tower were badly failed over many years...
"..in many ways by those who were responsible...
"..for ensuring the safety of the building and its occupants."
Saith mlynedd, dau fis ac 20 diwrnod union yn ôl roedd y mwg a'r tawch yn drwch yma
a'r tŵr yn dal i losgi.
Nawr, o leia, mae goleuni wedi cael ei fwrw ar y methiannau y camgymeriadau a'r celwyddau arweiniodd at 72 o bobl yn marw yn ddiangen.
Yng nghysgod y tŵr ar y diwrnod tyngedfennol wnes i gyfarfod ag Elin Mai.
Gadawodd y trychineb ôl arni.
"O'dd yr oglau mwg yn ofnadwy o gryf.
"Oedden nhw 'di cau o gwmpas y tŵr fel bod ni ddim yn mynd yn agos ato.
"O'n i'n gweld pobl yn eistedd lawr fel hyn.
"Pobl efo'i gilydd, breichiau rownd ei gilydd...
"..ac yn clywed nhw'n dweud, 'Dw i ddim yn gwybod os ydyn nhw'n fyw.'
"'Dw i methu cael gafael ar hwn a hwn,' ac yn crio...
"..a ddim yn gwybod os oedden nhw dal yn tŵr...
"..neu bod y mobile ddim yn gweithio."
Chi'n credu bod y feirniadaeth yma wedi dod yn rhy hwyr?
"Yn bendant a does 'na ddim cwestiwn am hynny.
"Mae saith mlynedd yn gymaint o amser i ddisgwyl am ateb.
"Ydy o'n ateb? Dw i ddim yn gwybod."
Yn oriau man 14 Mehefin 2017, cyneuodd y tân yn y tŵr o fflatiau.
O fewn oriau, roedd yr adeilad yn wenfflam.
Roedd y cladding o'dd wedi'i osod flwyddyn ynghynt ar waliau allanol y tŵr
wedi galluogi'r fflamau i ledu.
Drannoeth, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May ymchwiliad cyhoeddus.
Ddiwedd Ionawr 2018, bu farw menyw 74 oed o sgileffeithiau'r tan gan olygu bod nifer y bobl
fu farw wedi dringo i 72.
Ym mis Mai'r un flwyddyn, cafodd yr ymchwiliad ei agor yn ffurfiol gyda saith diwrnod o wrandawiadau.
Cafodd gasgliadau cynta'r ymchwiliad eu cyhoeddi yn Hydref 2019.
Roedd yn feirniadol iawn o'r Frigâd Dân ddywedodd wrth bobl i aros yn eu fflatiau.
Roedd y cyngor yna wedi arwain at fwy o farwolaethau.
Daeth y cladding o dan y chwyddwydr fel tanwydd i'r fflamau.
Yn Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai biliynau o bunnoedd ar
gael i dynnu cladding diffygiol o adeiladau uchel.
"This is about 72 people who lost their lives.
"All we ask for is for someone to take responsibility."
Ymhlith y casgliadau, y Llywodraeth Glymblaid wedi anwybyddu, oedi
neu ddiystyru pryderon diogelwch.
Hyrwyddo busnes ei blaenoriaeth.
Roedd cwmni cynhyrchu cladding Arconic wedi celu risg tân yn fwriadol.
Bai hefyd ar ddegau o gwmniau eraill fel Celotex a Kingspan peirianwyr ac adeiladwyr.
Lluniwyd gwe o gwmnioedd yn beio'i gilydd.
Bu newidiadau i'r diwydiant adeiladu ond mae dros 50 o adeiladau uchel
yng Nghymru yn dal heb eu haddasu.
"Mae deddf newydd 'di dod allan sef Deddf Adeiladu'n Ddiogel.
"Ni'n cychwyn edrych yn fanwl ar y ffordd ni'n cynllunio yn y dyfodol.
"Mae hwnna'n peth pwysig iawn."
"Ni eisoes wedi bod yn gweithio gyda'r adeiladwyr yng Nghymru...
"..i wneud yn siwr bod nhw'n gwybod beth yw responsibilities nhw.
"Hefyd, byddwn ni'n dod a deddf newydd i fewn...
"..i sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau newydd."
Wrth i'r cladding doddi, diferu a llosgi, fe ledodd y fflamau.
Daeth Gwasanaeth Tân Lundain dan y lach am ddiffyg hyfforddiant ac am gynghori pobl
i aros yn eu fflatiau.
"Efallai bod ni 'di dysgu rhai o'r gwersi fel gwasanaethau...
"..ond gyda phopeth arall sy'n mynd ymlaen gyda'r cladding hyn...
"..dw i ddim yn meddwl bod ni 'di symud digon pell eto."
Yn ôl yr Heddlu bydd e'n cymryd 18 mis cyn dechrau erlyniadau troseddol.
"Rhaid aros tan ddiwedd yr ymchwiliad.
"Mae rhywbeth fel hyn sy'n ddamniol o'r Frigad Dân a phobl fel'na...
"..yn mynd i roi rhyw fath o ateb dros dro iddyn nhw...
"..ond dyw hi ddim yn newid dim byd."
"Bassem Choucair, Nadia Choucair..."
Mae enwau'r bobl fu farw, chwech o un teulu'n unig wedi gosod gerllaw.
Daw cofeb barhaol a chyfiawnder i'w teuluoedd sy'n galw o hyd am gosbi'r rhai oedd yn gyfrifol.