'Peidiwch efelychu Scooby Doo' meddai tîm achub mynydd ar ôl i bobl fynd ar goll ar Tryfan
Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn galw ar bobl i "beidio efelychu Scooby Doo" ar ôl i ddau berson fynd ar goll ar fynydd Tryfan.
Penderfynodd y ddau berson oedd heb dorshis wahanu er mwyn ceisio dodo hyd i lwybr i lawr o'r mynydd yn Eryri am 2.00 y bore ar 27 Awst.
Fe wnaeth un ohonynt gysylltu gyda Thîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ac roedd modd iddyn nhw ddarganfod ei leoliad trwy ddefnyddio ap Phonefind.
Ond nid oedd modd dod o hyd i'r person arall, a'r unig ffordd o gysylltu ag o oedd drwy ap Snapchat.
Cafodd y ddau eu harwain i ddiogelwch trwy gyfarwyddiadau dros y ffôn.
Mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bellach wedi rhybuddio nad yw gwahanu yn syniad da os ydych chi ar goll ar y mynyddoedd.
"Peidiwch ag efelychu Scooby Doo, a chofio nad oes unrhyw beth da yn dod o wahanu," medden nhw, gan gyfeirio ar y ffaith bod cymeriadau y rhaglen yn penderfynu mynd ar drywydd gwahanol i'w gilydd ym mhob episod cyn mynd i drafferthion.
"Arhoswch gyda'ch grŵp nes eich bod yn ddiogel. Gwiriwch y tywydd a pheidiwch fod ofn i newid eich cynlluniau pe bai angen.
"Efallai nad ydych chi'n meddwl bod angen tortsh, ond mae'n well bod gennych chi un sydd â batri llawn. Mae cael map bob amser yn syniad da hefyd."