Paris '24: Y nofiwr ifanc Rhys Darbey yn sicrhau ail fedal
Mae’r nofiwr 17 oed Rhys Darbey wedi ennill ei ail fedal mewn ychydig o ddyddiau yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.
Ar ôl ennill medal aur yn y Ras Gyfnewid 4 x 100m Cymysg S14 ddydd Sul, mae’r bachgen o Gei Connah wedi llwyddo i gipio medal arian ddydd Mercher.
Fe lwyddodd y nofiwr, sy’n aelod o glwb Nofio Clwyd, i orffen y ras yn gryf i sicrhau'r ail safle, 0.08 eiliad yn unig o flaen Ricky Betar o Awstralia.
Nicholas Bennett o Ganada enillodd y fedal aur.
Wrth siarad ar Channel 4 ar ôl y ras, dywedodd Rhys Darbey: “Yn y 50 medr olaf, roeddwn i’n gwneud fy ngorau glas.
"Roeddwn i'n gallu gweld y nofiwr o Wcráin nesaf i mi ac fe wnaeth hynny fy helpu i wthio.
"Rwy'n hapus iawn , dyma fy ras unigol gyntaf yn y Gemau Paralympaidd a dwy ras allan o ddwy dwi wedi ennill medal, felly dwi wrth fy modd.
"Ro'n i'n gobeithio am fedal doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cael dwy ac un ohonyn nhw'n aur. Dwi wrth fy modd."
Llun: Wochit