Newyddion S4C

S4C yn hysbysebu swydd prif weithredwr newydd

03/09/2024
Yr Egin

Mae S4C wedi hysbysebu ar gyfer swydd prif weithredwr parhaol i’r darlledwr.

Yn ôl yr hysbyseb swydd a ymddangosodd ar wefan y sianel ddydd Llun, mae’r darlledwr yn chwilio am “arweinydd ysbrydoledig, gydag agwedd greadigol ynghyd â thystiolaeth amlwg o'r gallu i reoli unigolion, timau a sefydliadau mewn ffordd deg a chymodol”.

Cafodd Sioned Wiliam ei phenodi fel prif weithredwr dros dro i’r sianel wedi ymadawiad Sian Doyle o’r sianel ar ôl cael ei diswyddo ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae gan brif weithredwr S4C y prif gyfrifoldeb am holl weithgareddau’r sianel.

Fe fydd aelodau anweithredol Bwrdd Unedol S4C  - sy’n gyfrifol am benodi’r prif weithredwr  - yn cydweithio gyda chwmni Odgers Berndtson wrth recriwtio'r arweinydd nesaf.

Sgiliau rhyngbersonol eithriadol’

Dywed yr hysbyseb swydd: “Dyma gyfle gwych i arwain S4C i'n pennod nesaf wrth i ni barhau i drawsnewid i fod yn endid cwbl ddigidol wrth i'n cynulleidfaoedd wylio ein cynnwys mewn ffyrdd gwahanol. 

“Mae Bwrdd S4C yn chwilio am Brif Weithredwr i fod yn gyfrifol am holl weithgareddau S4C, ac wrth wneud hynny ymgorffori gwerthoedd craidd S4C. 

“Fel llysgennad S4C, bydd y Prif Weithredwr yn rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd, a bod yn barod i weithio gyda'r Bwrdd, staff S4C a'r sector i ddod â'r weledigaeth yna'n fyw."

Aiff yr hysbyseb yn ei flaen i ychwanegu: “Bydd y Prif Weithredwr yn arweinydd ysbrydoledig, gydag agwedd greadigol ynghyd â thystiolaeth amlwg o'r gallu i reoli unigolion, timau a sefydliadau mewn ffordd deg a chymodol. 

“Bydd gan yr unigolyn hanes profedig o ddod â staff a rhanddeiliaid a phartneriaid amlochrog ar daith wrth fynd drwy gyfnod o drawsnewid. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.