Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth Cymru i wella gofal diwedd oes

03/09/2024
Gofal lliniarol

Mae elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella gofal diwedd oes yn dilyn ei adroddiad diweddaraf.

Yn ôl adroddiad newydd gan Marie Curie, roedd un mewn bob naw person a fu farw mewn ysbyty yng Nghymru a Lloegr wedi bod yno am lai na 24 awr.

Dywedodd yr elusen fod hyn yn dystiolaeth bod "gormod o bobl sy’n agos at farwolaeth yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys prysur oherwydd nad oes mynediad at ofal cywir gartref nac mewn cartref gofal".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu mwy na £12.5m y flwyddyn" i sicrhau bod pobl yn gallu cael "y gofal a’r cymorth diwedd oes gorau posibl".

Yn ôl Marie Curie, mae ei hastudiaeth newydd o 1,179 o bobl mewn profedigaeth y mwyaf yn y DU ers bron i 10 mlynedd.

Fe gafodd ei chynnal mewn cydweithrediad â Choleg y Brenin Llundain, Ysgol Feddygol Hull York a Phrifysgol Caergrawnt.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod mwy nag un o bob tri o bobl wedi eu heffeithio’n ddifrifol neu’n llethol gan boen (36%) neu ddiffyg anadl (40%) yn ystod wythnos olaf eu bywyd, gyda nifer yn teimlo’n bryderus ac yn isel eu hysbryd.

Nid oedd gan bron i hanner y bobl (46%) a fu farw yn yr ysbyty unrhyw ffrindiau nac aelodau o'r teulu yn bresennol, meddai'r ymchwil.

Roedd bron i hanner (49%) yn anhapus ag o leiaf un agwedd o'r gofal a gafodd y person a oedd yn marw ac, o’r rheini, gwnaeth un o bob wyth gŵyn ffurfiol.

Roedd yr ymchwil hefyd yn awgrymu nad oedd un o bob pump a oedd yn marw wedi cael unrhyw gysylltiad â’u meddyg teulu yn ystod tri mis olaf eu bywyd.

Dywedodd Marie Curie nad oedd gan staff y Gwasanaeth Iechyd ddigon o amser i ddarparu gofal digonol i bobl oedd yn marw, gyda gofalwyr di-dâl yn ymgymryd â rolau gofalu sylweddol heb fawr o gymorth.

Mae'r elusen wedi rhagweld yn flaenorol y bydd 147,000 o bobl ychwanegol yn y DU angen gofal lliniarol cyn iddyn nhw farw erbyn 2048.

'Effaith ddofn'

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie Cymru, Jon Antoniazzi, fod angen gwella gofal diwedd oes ar unwaith.

"Mae clywed sut mae pobl yn dal i gael trafferth yn eu hwythnosau olaf mor drist a thrallodus. Mae ôl-effeithiau gofal diwedd oes gwael yn cael effaith ddofn ar y sawl sy'n marw yn ogystal â'u hanwyliaid," meddai.

“Yn rhwystredig, er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae gofal diwedd oes yn parhau i gael ei anwybyddu a nawr mae’r diffyg cymorth ar lefel hollbwysig.

"Er bod gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes, mae gwir angen i ni weld yr uchelgeisiau hyn yn cael eu troi’n gynllun cadarn ac yn gamau gweithredu cadarn.

"Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun yn gyflym i gefnogi a chyflawni ei dyheadau gofal diwedd oes sydd eisoes wedi’u cyhoeddi ledled Cymru."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "gall gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl" .

“Dyna pam rydyn ni’n parhau i ddarparu mwy na £12.5m y flwyddyn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael y gofal a’r cymorth diwedd oes gorau posibl.

“Mae’r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes yn bwrw ymlaen â gwelliannau fel gosod safonau cenedlaethol ar gyfer gofal, hybu gwasanaethau yn y gymuned, cefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu gofal a gwella gofal profedigaeth fel bod teuluoedd ac unigolion yn cael y cymorth sydd ei angen pan fyddan nhw'n colli anwyliaid."

Maent hefyd yn dweud eu bod yn cefnogi gofalwyr di-dâl trwy gynnig cymorth iddynt a bod arian wedi ei rhoi i helpu gofalwyr pan mae'r person sydd yn sâl yn yr ysbyty neu wedi gadael yr ysbyty. 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.