Gavin and Stacey: Ffilmio'r bennod olaf wedi dechrau
Mae'r gwaith ffilmio ar gyfer pennod olaf y gyfres Gavin and Stacey wedi dechrau.
Mae'r BBC wedi cyhoeddi llun o ddiwrnod cyntaf y ffilmio ddydd Llun, gyda'r rhaglen yn cael ei darlledu ddiwrnod Nadolig 2024.
Dywedodd y BBC ar y cyfryngau cymdeithasol "Oh. My. Christ," fel mae'r cymeriad Pam yn ei ddweud.
"Mae'r ffilmio ar gyfer pennod olaf Gavin and Stacey wedi dechrau. Rydym wedi cyffroi".
Roedd y gyfres sydd wedi lleoli yn y Barri ar y sgrin fach rhwng 2007 a 2010.
Dychwelodd Ruth Jones, James Corden, Rob Brydon a'r actorion eraill ar gyfer pennod arbennig ar ddiwrnod Nadolig 2019.
Gorffennodd y bennod honno gyda chymeriad Ruth Jones, Nessa yn gofyn i gymeriad James Corden, Smithy i'w phriodi.
Cafodd ei gwylio gan 11.6 miliwn o bobl y noson honno, a bellach mae wedi ei gwylio gan dros 17.1 miliwn.