Menyw yn y llys wedi'i chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed yn Abertawe
Mae disgwyl i fenyw ymddangos yn y llys bore dydd Llun wedi iddi gael ei chyhuddo o lofruddio bachgen chwech oed "hynod annwyl" yn Abertawe.
Bu farw Alexander Zurawski mewn eiddo yng Nghlôs Cwm Du yn ardal Gendros nos Iau 29 Awst.
Cafodd Karolina Zurawska, 41 oed, ei harestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth.
Fe fydd Ms Zurawski yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe.
Daw wedi iddi gael ei chyhuddo o lofruddiaeth ddydd Sul, yn ogystal ag un cyfrif o geisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â dyn 67 oed ar yr un diwrnod.
Nid yw’r heddlu yn edrych am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, rheolwr rhanbarthol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbo bod y digwyddiad wedi bod yn "sioc aruthrol i’r gymuned leol."
“Mae’r gymuned leol wedi bod yn rhagorol wrth ein cefnogi gyda'n hymchwiliad, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd yn ystod cyfnod trawmatig.
“Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd.
“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander ar yr amser anodd hwn.”
‘Bachgen hynod annwyl a phoblogaidd’
Mae teulu Alexander a phennaeth Ysgol Gynradd Whitestone wedi rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd Whitestone: “Rydym wedi ein syfrdanu o glywed am farwolaeth drasig Alexander.
“Roedd Alexander yn fachgen bach hoffus, penderfynol ac roedd ei agwedd bositif a’i ddycnwch yn sicrhau ei fod yn llwyddo ym mhopeth yr oedd yn ei wneud.
“Roedd yn fachgen hynod annwyl a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei adnabod. Bydd colled fawr ar ei ôl."
'Plentyn caredig iawn'
Dywedodd ei deulu mewn teyrnged: “Roedd Alexander yn blentyn caredig iawn. Roedd wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach ac yn chwarae gyda’i gi, Daisy.
“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg.
“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.
“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu, bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau.
“Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai’n aml yn cywiro ei rieni gyda’u Saesneg os oedden nhw’n cael geiriau’n anghywir.
“Roedd yn anhygoel.”
Dywedodd Heddlu De Cymru bod y teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon. Fe wnaeth y teulu hefyd fynegi eu diolch i’r gwasanaethau brys.
Llun: Alexander Zurawski (Heddlu De Cymru)