Newyddion S4C

Disgwyl cymeradwyo cynnydd mewn prisiau parcio yng Ngheredigion

02/09/2024
Prom Aberystwyth

Mae disgwyl i gynghorwyr sir Ceredigion gymeradwyo newidiadau i gost parcio yn y sir yr wythnos yma.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, mae yna argymhelliad y dylai cynghorwyr dderbyn gosod prisiau newydd i barcio ar y promenâd yn Aberystwyth.

Yr argymhelliad yw y dylid codi'r pris i barcio ar y stryd i £3.50 am ddwy awr a £5 am bedair. Bydd eithriadau ar gyfer deiliaid bathodyn glas.

Mae tua 179 o lefydd parcio ar y promenâd ar lan y môr.

Yn ogystal, mae disgwyl i ymgynghoriad gael ei gefnogi gan y cynghorwyr ar newidiadau i feysydd parcio Ceredigion a allai ddod â pharcio ar gyfer tymhorau tawel i ben, gan godi'r un prisiau drwy'r flwyddyn.

Mae cynnig hefyd i orfodi holl ddeiliaid bathodynnau glas i dalu am barcio.

Ar 29 Chwefror, cymeradwyodd y cyngor y gyllideb ar gyfer 2024/25, a oedd yn cynnwys disgwyliad bod £1,700,000 (net) mewn incwm yn cael ei gynhyrchu o’r meysydd parcio Talu ac Arddangos presennol.

Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd swyddogion adroddiad i un o bwyllgorau'r cyngor a oedd yn nodi pecyn o gynigion a oedd yn anelu at gyflawni hyn, yn ogystal â symleiddio’r taliadau a’r trefniadau presennol.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.