Newyddion S4C

Rhybudd am stormydd a chawodydd trwm mewn grym i rannau o Gymru ddydd Sul

01/09/2024
storm

Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym i rannau helaeth o Gymru ddydd Sul.

Mae’r rhybudd nawr mewn grym rhwng 04:00 a 23:59 ddydd Sul.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r tywydd stormus, gan gynnwys mellt a chenllysg, arwain at oedi i deithiau yn ogystal ag achosi llifogydd mewn mannau.

Gallai hyd at 40mm o law syrthio o fewn awr, gyda rhai ardaloedd o bosib yn derbyn tua 75mm o law.

Mae'r rhybudd yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Conwy
  • Gwynedd
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.