‘Rhy beryglus’ i barhau i chwilio am ddynes sydd wedi diflannu mewn twll ym Malaysia
Mae’r awdurdodau ym Malaysia wedi oedi’r chwilio am fenyw a ddiflannodd mewn twll mewn stryd yn Kuala Lumpur oherwydd ei fod yn “rhy beryglus”.
Dywedodd sywddogion ei bod hi’n ormod o risg anfon mwy o ddeifwyr i lawr carthffosydd y brifddinas i chwilio am ddynes a ddiflannodd i dwll sinc wyth diwrnod yn ôl.
Roedd Vijaya Lakshmi Gali, 48 o India, yn cerdded ar hyd ffordd yn Kuala Lumpur ar 23 Awst pan ddymchwelodd y palmant oddi tani yn sydyn.
Fe blymiodd i mewn i'r twll wyth metr a diflannodd. Mae timau wedi bod yn ceisio chwilio amdani yng ngharthffosydd y ddinas ond mae'r amodau'n anodd.
Mae’r carthffosydd wedi'u rhwystro gan flociau soled o garthion, gwallt ac olew coginio, gan ei gwneud yn anodd dros ben i chwilio trwy’r pibellau sy'n llifo'n gyflym.
Llun: X/Asharq Al-Awsat