Diffoddwr tân o Sir Benfro'n ymddeol ar ôl bron i hanner canrif
Mae diffoddwr tân o Sir Benfro sydd wedi ymddeol ar ôl 45 mlynedd, yn annog eraill i “roi cynnig” ar waith sydd “mor fuddiol”.
Mae'r Rheolwr Gwylfa Euros Edwards, o Grymych, a ddechreuodd ei yrfa gyda Brigad Dân Dyfed yn 1979, yn cynghori pobl sydd yn ystyried dod yn ddiffoddwyr tân i “roi cynnig arni, mae cymaint y gallwch ei ddysgu ac mae'n rôl mor fuddiol".
Mae Mr Edwards wedi gwasanaethu cymunedau Sir Benfro am dros bedwar degawd fel diffoddwr tân ar alwad ac wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynnal gwasanaeth yng ngorsaf dân Crymych meddai'r Gwasanaeth Tân.
Yn gynharach eleni, cafodd ei gydnabod am ei yrfa a'i ymrwymiad pan dderbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).
Yn 1998, roedd Mr Edwards yn rhan allweddol o’r gwaith o gyflwyno cynllun cyd-ymatebydd gwirfoddol i Grymych.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y fenter “wedi rhoi cefnogaeth i wasanaethau ambiwlans lleol ac wedi achub llawer o fywydau yng nghymunedau Gogledd Sir Benfro”.
Dywedodd Mr Edwards: “Dwi wir wedi mwynhau fy ngyrfa fel Diffoddwr Tân Ar Alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC). Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gwasanaethu a gwarchod cymunedau Sir Benfro ers dros 45 mlynedd, ond mae'n bryd i mi hongian fy helmed am y tro olaf.
"Rwyf wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod fy amser gyda'r Gwasanaeth, nid yn unig yn y datblygiadau mewn technoleg ac offer, ond hefyd gyda ffurfio GTACGC yn 1996."
"I unrhyw un sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, fy nghyngor i fyddai rhoi cynnig arni, mae cymaint y gallwch ei ddysgu ac mae'n rôl mor fuddiol."
Dywedodd Rheolwr Ardal Dros Dro Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Sean Lloyd: “Mae Euros wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol i gymuned Crymych a'r ardaloedd cyfagos."