Rali Ceredigion yn croesawu sêr y byd ralïo
Mae cryn gyffro'n y gorllewin wrth i Rali Ceredigion, sydd wedi ei chynnwys fel cymal ar gyfer Pencampwriaeth Ralïo Ewrop yr FIA eleni, gychwyn ddydd Gwener.
Bydd sêr o'r byd ralio yn cystadlu yn yr ardal yn ystod y ras, sydd yn cael ei chynnal rhwng 30 Awst a 1 Medi.
Mae cynnwys cymal Ceredigion fel rhan o'r bencampwriaeth yn golygu bod y gystadleuaeth FIA yn dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers 28 o flynyddoedd.
Hwn hefyd fydd y tro cyntaf y bydd y DU wedi cynnal rownd o bencampwriaeth haen uchaf FIA ers y cynhaliwyd Rali Cymru GB ym mis Hydref 2019.
Dywedodd Charlie Jukes, Cyfarwyddwr Digwyddiad Rali Ceredigion bod y rali yn gyfle i "ddathlu" chwaraeon modur.
"Rydym wrth ein bodd o dderbyn Rali Ceredigion i’r cymalau newydd a chyffrous hyn ac, drwy sylw estynedig y digwyddiad, creu ymwybyddiaeth fyd-eang o'r rhanbarth a gyrru cyfleoedd twristiaeth.
"Mae’r digwyddiad hwn yn ddathliad o chwaraeon modur ond hefyd, mae’n ddathliad o gymunedau bywiog a thirluniau godidog Cymru. Anogwn bawb i ymuno â ni a phrofi cyffro a harddwch y rali hon.”
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys bod y digwyddiad yn gyfle i arddangos tirlun Cymru i'r byd.
"Mae Rali Ceredigion yn enghraifft wych o ddigwyddiad sy’n dwyn manteision economaidd yn ogystal â manteision ehangach i’n hardal.
"Rydym yn teimlo’n gyffrous i groesawu cynulleidfa ryngwladol fawr i ganolbarth a gorllewin Cymru am ddigwyddiad sy’n amlygu ein hasedau naturiol.
"Mae’r digwyddiad hefyd ar daith gyffrous i roi hwb i’w gynaliadwyedd, gan gynnig esiampl o sut y gall digwyddiad o’r fath ysgogi perfformiad amgylcheddol wrth gynnig profiad mor wych i bobl leol ac ymwelwyr.”
Prif lun: Cyngor Ceredigion