Newyddion S4C

Antur Waunfawr yn llwyddo i gadw a recriwtio staff er gwaethaf heriau yn y maes gofal cymdeithasol

28/08/2024

Antur Waunfawr yn llwyddo i gadw a recriwtio staff er gwaethaf heriau yn y maes gofal cymdeithasol

Mae Antur Waunfawr yn fenter sy'n cefnogi 70 o unigolion nifer ag anghenion cymhleth a dwys ac yn cyflogi 100 o staff.

Wrth wynebu'r her o gadw a recriwtio staff, maen nhw'n llwyddo gyda throsiant o 5% o'i gymharu a'r ganran genedlaethol o 30%.

"Dw i'n credu bod angen cydnabod bod y maes gofal cymdeithasol ar yr un platfform â iechyd.

"Dw i'n gwybod bod iechyd yn stryglo ei hunan hefyd ond mae angen cyfartaledd o ran cyflog ac o ran cydnabyddiaeth achos mae'r ddau faes yn bwysig i ni yng Nghymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu drwy bwyso'r cyflog byw gwirioneddol ond mae mwy i wneud."

Mae nifer o'r gweithwyr wedi elwa o gyrsiau hyfforddi a datblygu gyrfa.

Mae rhai wnaeth gychwyn yma'n gwirfoddoli bellach yn rheolwyr.

"Does dim un diwrnod 'run fath ac mae'r diwrnod mor hwylus.

"Dysgu lot o sgiliau newydd ac yn rhoi sgiliau i'r bobl hefyd.

"Mae'n deimlad mor braf i ddatblygu pobl i roi pwrpas i'w bywyd.

"Dyna pam dw i'n mwynhau'r job."

Wrth wella lles y gweithwyr, mae'r fenter yn arbrofi ac wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar ap newydd i hybu meddwlgarwch a lles gweithwyr yn y sector.

"Holl bwrpas y prosiect ydy datblygu teclyn, fatha toolkit ac ap dwyieithog sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg ar gyfer staff yn y sector gofal, staff iechyd ac unigolion efo anableddau dysgu sy'n derbyn gwasanaethau."

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gwaith anhygoel gan weithwyr gofal.

Mae wedi ymrwymo i wella amodau gweithio a denu mwy i'r sector ac yn gweithio'n agos a'r undebau a chyflogwyr i wella amodau gweithio a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Mae'r cysylltiad lleol yn bwysig i'r Antur fyth ers ei sefydlu gan ymgyrchydd hawliau anabledd blaenllaw Cymru, R Gwynn Davies bedwar degawd yn ôl.

Ei weledigaeth oedd cynnig gwaith gyda phwrpas i bobl ag anableddau dysgu yn eu cymuned.

I genedlaethau o bobl leol roedd y weledigaeth yna hefyd yn creu cyfleon am yrfa a bywoliaeth.

"Ges i fy magu efo Mam a Dad yn gweithio yn yr Antur.

"Trwy 'mhlentyndod, mae'r Antur wedi bod yn part mawr o 'mywyd i.

"Mae lluniau o Mam a Dad ar ddiwrnod eu priodas efo'r unigolion.

"Pan o'n i yn y coleg, wnes i wneud work experience yma a dod yn ôl i nabod pawb a sut o'dd yr Antur yn gweithio.

"Wnes i fwynhau'r wythnos yna gymaint unwaith ddes i allan o gofal adeg Covid o'n i eisiau sialens newydd a dod hefo anableddau."

Mae'r galw am gefnogaeth i unigolion sydd ag anghenion gofal yn cynyddu.

Gallai'r gwersi sy wedi dysgu mewn canolfannau fel Antur Waunfawr helpu gwasanaethau gofal Cymru sy dan bwysau i gwrdd â'r galw hwnnw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.