Newyddion S4C

Lleihau hyd ras seiclo oherwydd effaith y terfyn cyflymder 20mya

27/08/2024

Lleihau hyd ras seiclo oherwydd effaith y terfyn cyflymder 20mya

Dechrau cymal cynta taith iau Cymru heno ym Mrynmawr ym Mlaenau Gwent.

Ras sydd wedi tanio sawl gyrfa fel y seiclwr o Gaerdydd, Geraint Thomas.

Mae'n cael ei chynnal ers dros ddeugain mlynedd.

Fel arfer, mae'r ras pedwar diwrnod yn 237 o filltiroedd o hyd.

Ond eleni fe fydd hi saith milltir yn fyrrach.

A hynny oherwydd effaith y terfyn cyflymder 20 milltir yr awr.

Fydd y cerbydau cymorth a diogelwch ddim yn medru aros gyda'r beicwyr sydd yn golygu bod y trefnwyr wedi gorfod newid y llwybr.

"About a month of serious headaches and lost sleep but we're here now.

"Racing on Pembrey motor racing circuit instead because of 20mph.

"Hopefully we'll be back there in 12 months."

Mae'r cyfyngiadau 20 milltir yr awr yn effeithio ar saith milltir yn unig o lwybr y ras, ond yn ôl y trefnwyr doedd hi ddim yn bosib sicrhau diogelwch y seiclwyr.

Mae trefnwyr y ras wedi ailfeddwl am lwybr tri o'r pump cymal oherwydd y cyfyngiadau ugain milltir yr awr.

Roedd cymal pedwar i fod i orffen yma yn Nantgaredig ond fe fydd cymal pedwar nawr yn cael ei gynnal ar drac rasio Pembre.

Doedd Cyngor Sir Caerfyrddin ddim am wneud sylw ynglŷn â'r sefyllfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru taw'r flaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd ac maen nhw wedi cydweithio gyda'r trefnwyr i sicrhau bod y ras yn medru parhau.

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud bod hi'n siomedig i weld digwyddiad arall yn cael ei daro gan y polisi ugain milltir yr awr.

Mae Emyr Griffiths o Gaerfyrddin yn gwneud bywoliaeth o drwsio beics ac mae'n feiciwr brwd ei hun.

Tra'n cefnogi y terfyn cyflymder o ugain milltir yr awr mae'n dweud ei bod hi'n siom nad oedd modd dod i drefniant dros dro mewn pryd i ganiatau i'r seiclwyr ifanc i ddefnyddio'r ffyrdd lleol.

"Fi'n credu galle fe fod wedi cael ei neud.

"Mae rasys mawr fel y Tour of Britain.

"Os chi'n dishgwl ar safon y ras oni bai bod Tour of Britain mor fawr yn sgil oedran y bobl sy'n rasio maen nhw'n gallu neud ffordd i hwnna ddigwydd ond mae'n drist bod nhw ffaelu neud e i hyn.

"Mae enillwyr y ras wedi ennill yn y dyfodol y Tour de France."

Mae Beicio Cymru yn dweud eu bod nhw yn cefnogi'r terfyn o ugain milltir yr awr, ond mae'r cyfyngiadau wedi creu heriau wrth ddarparu rasys ffordd gan gynnwys Taith Iau Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.