Newyddion S4C

Gollwng ymchwiliad i honiadau o gamblo ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol

23/08/2024

Gollwng ymchwiliad i honiadau o gamblo ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol

Mae Heddlu'r Met wedi gollwng ymchwiliad yn sgil honiadau o gamblo ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol, gan ddweud nad oedd y trothwy am gamymddwyn mewn swyddfa gyhoeddus wedi ei gyrraedd. 

Fe wnaeth cyn-gynorthwyydd seneddol Rishi Sunak, Craig Williams, oedd yn ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr, gyfaddef i iddo osod bet ar ddyddiad yr etholiad, ddyddiau yn unig cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Cyhoeddodd y Ceidwadwyr yn ddiweddarach nad oedden nhw bellach yn cefnogi Craig Williams fel ymgeisydd yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr.

Roedd Aelod o Senedd Cymru hefyd yn wynebu ymchwiliad gan y Comisiwn Gamblo dros fetio honedig ar ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol.

Fe wnaeth Russell George, aelod Ceidwadol o’r Senedd, gamu’n ôl o gabinet cysgodol Cymru tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Roedd Mr George yn cynrychioli Sir Drefaldwyn – yr un ardal â Craig Williams.

Roedd honiadau am gamblo ar yr etholiad yn bwnc llosg yn ystod ymgyrch y Ceidwadwyr ym mis Mehefin wedi iddi ddod i'r amlwg fod uwch-swyddogion y blaid wedi betio ar y dyddiad ychydig cyn iddo gael ei gyhoeddi. 

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Heddlu'r Met fod yr ymchwiliad troseddol ar ben ac nad oedd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd. 

Mae ymchwiliad y Comisiwn Gamblo yn parhau yn fyw gan olygu y gallai cyhuddiadau troseddol gael eu cymryd o hyd. 

Dywedodd yr Uwcharolygydd Ditectif Katherine Goodwin: "Fe wnaeth yr honiadau yma amharu yn sylweddol ar hyder y cyhoedd yn ystod ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ac roedd hi'n iawn ein bod ni'n ymchwilio i'r troseddau posib. 

"Mae yna droseddau o dan y Ddeddf Gamblo o hyd i’w hystyried ac mae’n briodol eu bod nhw'n cael eu hystyried gan y Comisiwn Gamblo sydd ag arbenigedd penodol yn y maes hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.