Newyddion S4C

'Bydd ei ganeuon yn byw am byth': Teyrngedau i'r amryddawn Dewi 'Pws' Morris

22/08/2024

'Bydd ei ganeuon yn byw am byth': Teyrngedau i'r amryddawn Dewi 'Pws' Morris

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r amryddawn Dewi Pws Morris, yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 76 oed.

Yn gerddor, actor, awdur, digrifwr, cyflwynydd, bardd, golffiwr a chymeriad o fri, bu farw'n dilyn cyfnod o salwch.

Fe adawodd ei farc unigryw ar Gymru dros ddegawdau o berfformio ar lwyfanau ar hyd a lled y wlad, ac fe fydd yn gael ei gofio am flynyddoedd i ddod am ei dalentau niferus a'i hiwmor unigryw.

Image
Pws

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C: “Roedd Dewi Pws yn gymeriad unigryw ac yn berfformiwr amryddawn wnaeth gyfraniad mor eang i S4C ac i ddiwylliant Cymraeg.

“Yn actor, yn gerddor ac yn ddiddanwr heb ei ail, bydd y cyfoeth o gynnwys a chymeriadau y llwyddodd i’w creu yn aros yn hir yn y cof. 

“O Miri Mawr i Torri Gwynt i Debot Piws bu’n arwr ac yn ysbrydoliaeth i nifer ohonom yn ein plentyndod ac roedd yn un o’n cewri creadigol fel cenedl.   

“Ry’n ni’n cydymdeimlo a’i wraig Rhiannon, ac yn diolch am ei ddoniau.”

Nos Iau dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fod marwolaeth Dewi 'Pws' yn golled.

"Newyddion trist iawn. Daeth Dewi a hwyl i fywyd cymaint ohonom. Collad enfawr."

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Ffigwr poblogaidd, direidus, dawnus a chwbl eiconig oedd yn ganolog i raglenni yn y ddwy iaith; dyna fel y cofiwn am Dewi. Mae’n anodd meddwl amdano heb wenu; ei jocs a’i hiwmor. Ond roedd hefyd yn gymeriad didwyll ac egwyddorol; un o fil. 

“Wrth ddiolch am ei gyfraniad hynod i’r byd cerddorol a chreadigol yng Nghymru o Bobol y Cwm i Grand Slam cofiwn hefyd am Rhiannon, ei wraig a’i holl ffrindiau ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â hwy ar golli un mor annwyl.”

'Arwr i'r Cymry'

Dywedodd y cerddor Mei Gwynedd: "Am newyddion sobor o drist. Diolch yn fawr Dewi am fod yn arwr i ni'r Cymry. A diolch fil am yr holl ganeuon; caneuon y byddwn yn eu canu am ganrifoedd."

Cerddor arall i roi teyrnged iddo oedd Geraint Lövgreen. Dywedodd mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol: "Anodd dychmygu Cymru heb Pws, roedd o'n ran o'n byd ni gyd rywsut.

Dywedodd yr actores Rhian Cadwaladr â ymddangosodd yn y gyfres Rownd a Rownd gyda Dewi: “Mor drist o glywed hyn. Roedd Dewi yn unigryw, yn gyfaill i bawb yr oedd o'n ei adnabod, yn ddireidus ac annwyl ac yn angerddol dros Gymru a'r Gymraeg. Cwsg yn dawel Dewi, roedd yn fraint cael dy adnabod”.

Brwydr yr iaith

Roedd Dewi yn ymgyrchydd brwd dros Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ers sefydlu'r mudiad, ag wrth ymateb i'r newydd am ei farwolaeth, fe ddywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas: "Diolch Dewi am ddangos i ni trwy dy ganeuon a thrwy dy fywyd mai brwydr o lawenydd yw'r frwydr dros y Gymraeg. 

"Nid baich, nid dyletswydd ond cydweithio llawn hwyl dros y Gymru Rydd a Chymraeg newydd."

Image
Pws

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru dros Arfon: "Roedd Pws mor ddawnus; bydd ei ganeuon yn byw am byth fel bydd ei angerdd dros Gymru a'r Gymraeg".

Aelod arall Plaid Cymru o'r Senedd i roi teyrnged iddo oedd Heledd Fychan AS. Dywedodd: "Gwaddol o farddoniaeth a cherddoriaeth fydd yn parhau i wneud i bobl chwerthin a'i gofio am flynyddoedd i ddod. Cydymdeimladau i Rhiannon a phob un o'i gyfeillion niferus".

Dywedodd cyn-bennaeth Adloniant S4C, Elen Rhys: “Am gyfraniad ac am gymeriad! Un mor amryddawn a wnaeth wahaniaeth enfawr i Gymru a hynny gyda’i hiwmor unigryw. Diolch Dewi. Yn meddwl am Rhiannon, y teulu a’i holl ffrindie”.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.