Newyddion S4C

Graddau TGAU yng Nghymru yn disgyn yn agos i lefelau cyn y pandemig

22/08/2024

Graddau TGAU yng Nghymru yn disgyn yn agos i lefelau cyn y pandemig

Mae canlyniadau TGAU ar draws Cymru wedi gostwng i lefelau sy’n agos at y rhai cyn y pandemig.

Dywedodd y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ) fod y canlyniadau eleni yn debyg i'r rhai a ddyfarnwyd i fyfyrwyr cyn y pandemig yn 2019 ond “Dylid pwyllo cyn cymharu â chanlyniadau unrhyw flynyddoedd blaenorol gan fod y dulliau asesu a'r amgylchiadau'n rhai gwahanol”.

Fe gafodd 316, 580 300 o raddau TGAU eu dyfarnu eleni sydd yn gynnyddd o 5.4%  ers y llynedd.

Mae 18.3% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn radd A/7 neu'n uwch o’u cymharu â 21.7% y llynedd tra bod 57.3% yn C/4 neu'n uwch (64.9% llynedd) ac roedd 93.9% yn G/1 neu'n uwch (96.9% llynedd).

Roedd 62.2% o'r graddau TGAU yng Nghymru yn raddau A*-C o’u cymharu â 65.6% y llynedd.

O’u cymharu â 2019 mae graddau A*/9 - A/7 i fyny 0.8%, A*/9 – C/4 i lawr o 0.6% a graddau A8/9 – G/1 i lawr 0.4%.

Eleni oedd y flwyddyn gyntaf i Gymru ddychwelyd i lefelau graddio arholiadau cyn pandemig Covid-19.

Roedd canlyniadau TGAU yng Nghymru y llynedd 'hanner ffordd' rhwng y rhai a gafodd eu dyfarnu yn 2019 a 2022. 

2019 oedd y flwyddyn olaf cyn pandemig y coronafeirws, a 2022 y flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll arholiadau wrth i Gymru ddod allan o fesurau’r pandemig.

Cafodd canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru eu cyhoeddi ddydd Iau diwethaf. 

Fe wnaeth y graddau uchaf ar gyfer canlyniadau Safon Uwch yng Nghymru ostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Roedd canran y graddau A ac A* yn 29.9% eleni, o gymharu â 34% yn 2023.

Er y gostyngiad, mae'r canlyniadau'n parhau i fod yn uwch na chyn cyfnod pandemig Covid-19, pan roedd canran y graddau A-A* yn 26.5%.

Wrth ymateb i’r canlyniadau ddydd Iau, mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, wedi llongyfarch disgyblion ar eu canlyniadau: "Hoffwn longyfarch pawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Mae'n siŵr bod y pandemig wedi effeithio arnoch chi i gyd, ond mae cael eich canlyniadau heddiw yn garreg filltir fawr.

“Dylai pob un ohonoch chi fod yn falch iawn o'r gwaith caled, yr ymroddiad a'r gallu rydych chi wedi'i ddangos.”

"Rwy'n gobeithio eich bod chi wedi cael y graddau roeddech chi eu heisiau. Ond cofiwch fod llawer o ddewisiadau gwahanol ar gyfer eich cam nesaf i addysg neu gyflogaeth. Gallwch gysylltu â Gyrfa Cymru, eich ysgol neu eich coleg lleol i gael.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.