Bill Clinton: 'Kamala Harris yw'r dewis clir ar gyfer arlywydd'
Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, wedi canmol ymgeisydd ei blaid yn y ras arlywyddol, Kamala Harris.
Wrth siarad yng Nghonfensiwn y Democratiaid yn Chicago ddydd Mercher, dywedodd Mr Clinton mai hi yw'r "dewis clir" ar gyfer arlywydd.
"Yn 2024, mae gennym ni ddewis clir, mae'n ymddangos i mi," meddai.
"Pan oedd hi'n fyfyrwraig, roedd hi'n gweithio yn McDonald's. Roedd hi'n cyfarch bob person gyda'i gwên fawr ac yn dweud, 'Sut alla i'ch helpu chi?' Ac yn awr, ar uchafbwynt pŵer, mae hi'n dal i ofyn, 'Sut alla i'ch helpu chi?'" meddai.
"Mae angen i Kamala Harris, yr arlywydd llawenydd, ein harwain.”
Ychwanegodd Mr Clinton bod ei gwrthwynebydd, Donald Trump, yn y ras arlywyddol er mwyn ei hun yn unig.
“Mae [Trump] yn siarad amdano’i hun yn bennaf … ei vendettas, ei ddialedd, ei gwynion, ei gynllwynion.”
Fe dderbyniodd LLywodraethwr Minnesota Tim Walz enwebiad ei blaid fel is-arlywydd mewn anerchiad emosiynol.
Fe wnaeth y ddarlledwraig Oprah Winfrey annerch y confensiwn. Dywedodd fod yr etholiad yn ymwneud â “rhyddid”.
Yn y cyfamser, roedd Mr Trump yn annerch ei gefnogwyr y tu ôl i wydr trwchus yng ngogledd Carolina.
Dyma ei ymddangosiad cyntaf yn yr awyr agored ers yr ymgais i'w ladd ym mis Gorffennaf.
Bydd etholiad arlywyddol yr UDA yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd.