Rhoi profiadau’r genhedlaeth hŷn o'r pandemig ar gof a chadw

Rhoi profiadau’r genhedlaeth hŷn o'r pandemig ar gof a chadw
Mae Age Cymru wrthi yn rhoi profiadau’r genhedlaeth hyn o'r pandemig ar gof a chadw.
Mae cynllun 'Tell Me More' yn creu ffilm unigryw a’r nod yw casglu dros 100 o leisiau erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn ôl Cadeirydd Age Cymru Gwynedd a Môn mae cydweithio gydag artistiaid i rannu profiadau'r henoed wedi gweithio'n "rhyfeddol o dda".
"Mae'r artistiaid yn siarad â nhw dros Zoom, ac yna yn neud lluniau ohonyn nhw wrth siarad, ac yna'n animeiddio'r lluniau wrth wrando ar y lleisiau," eglura Dafydd Iwan.
"Mae hyn yn rhoi rhyddid iddyn nhw siarad, 'da ni'n clywed eu barn nhw heb ymyrryd gormod â'u preifatrwydd nhw."
Yn ôl Helen Ombler Williams mae'r profiad wedi bod yn un buddiol i Gartref Glan Rhos yn Sir Fôn.
"Mae'n braf gweld nhw'n siarad efo pobl wahanol, a sut ma' nhw di dod ymlaen efo Skype a medru siarad efo iPad o flaen nhw - Rywbeth 'sa nhw byth di neud o blaen," meddai.
Ond mae'n cydnabod bod ansicrwydd yn parhau ac nad yw hi’n debygol bydd normalrwydd yn dychwelyd i gartrefi am hir.
"Dwi'm yn meddwl eith pethau nôl i sut oedd hi cynt, lle oedd teuluoedd yn dod i fewn amser paned pnawn a chael teisen a phaned efo'r preswylwyr.
"Dwi'm yn gweld huna’n digwydd am hir eto, os neith o ail ddechrau o gwbl."