Newyddion S4C

Cwmni o Sir Ddinbych yn defnyddio gwymon i greu deunyddiau pacio gwyrdd

Cynnyrch PlantSea

Mae cwmni o Sir Ddinbych yn ceisio mynd i'r afael â llygredd plastig drwy ddefnyddio gwymon i ddatblygu deunyddiau pacio gwyrdd.

Fe gafodd PlantSea yn Llanelwy ei sefydlu yn 2020 gan dri ffrind o Brifysgol Aberystwyth ar ôl iddyn nhw ennill cystadleuaeth busnes gyda'u syniad o wneud deunyddiau pacio gwyrdd gyda gwymon o draethau gorllewin Cymru.

Ar ôl ennill gwobr o £10,000 am y syniad busnes gorau, fe wnaeth Dr Gianmarco Sanfratello, Dr Rhiannon Rees a Dr Alex Newnes wneud cais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru a'r corff cyhoeddus Innovate UK i sefydlu labordy.

Dywedodd Dr Sanfratello, sef prif swyddog technegol y cwmni, eu bod wedi datblygu cynnyrch a allai "droi'r llanw ar lygredd plastig".

"Rydym wedi datblygu proses unigryw i drosi gwymon amrwd yn ddeunyddiau sy'n gallu cael eu defnyddio mewn ffurf galed ac mewn ffilm hyblyg sy'n toddi mewn dŵr yn benodol ar gyfer pecynnu dosau unigol," meddai.

"Microplastig yw un o'r prif broblemau sy'n ein hwynebu fel defnyddwyr, ac rydym yn credu ein bod wedi datblygu cynnyrch yma yng ngogledd Cymru a allai droi'r llanw ar lygredd plastig."

Yn ôl yr Asiantaeth Amgylcheddol Ewropeaidd, mae dros 14 miliwn tunnell o ficroblastigau yng nghefnforoedd y byd.

Ac mae'r symiau’n cynyddu bob blwyddyn — gan achosi niwed i ecosystemau, anifeiliaid a phobl, meddai.

Gwraidd y syniad

Dechreuodd y broses arbrofi mewn cegin, nid labordy.

"Ers y dechrau, ein syniad oedd gwneud deunydd pacio o wymon, sydd wedi ei gasglu o'r lan ac yna ei brosesu i wneud ein cynnyrch," meddai Dr Sanfratello.

"Fe wnaethon ni ddysgu bod modd defnyddio'r adnodd hwn, sy'n naturiol doreithiog, i wneud deunyddiau amgen gwerthfawr i gapsiwlau bioddiraddadwy sy'n cael eu defnyddio ar gyfer deunydd golchi dillad a siampŵ."

Yn y DU mae dros 70,000 tunnell o blastig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer deunydd pacio gofal personol, ac mae dros 500 miliwn o boteli siampŵ yn mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.

Image
Cynnyrch PlantSea
Mae'r cwmni PlantSea yn defnyddio gwymon o Gymru i greu deunyddiau pacio gwyrdd

Ond gobaith Dr Sanfratello yw bod modd newid y sefyllfa hon.

"Mae ein ffilm gwymon sy’n toddi mewn dŵr yn ddewis arall perffaith ar gyfer PVA / PVOH, sy'n bolymer synthetig sy'n cael ei ddefnyddio yn gyffredinol i wneud podiau golchi dillad," meddai.

"Mae'n destun craffu mewn sawl gwlad, fel yr UDA, gan ei fod yn gadael microblastigau ar ôl sy'n mynd i mewn i'n dŵr yfed, ac mae ymchwil yn dangos bod microblastigau hefyd wedi gwneud eu ffordd i laeth y fron."

Er bod y dechnoleg hydoddi mewn dŵr yn dal i gael ei ddatblygu, mae'r cwmni eisoes yn gwerthu papur gwymon. 

"Mae'n bosib defnyddio'r papur i wneud pecynnau pellach fel bocsys a bagiau," meddai Dr Sanfratello. 

"Ein nod yw rhoi dewis i ddefnyddwyr, gwella ôl troed carbon ein cwsmeriaid ac, yn y pen draw, cyfrannu at gynaliadwyedd ein planed."

Ychwanegodd: "Byddem wrth ein bodd yn tyfu ein busnes ymhellach yma yng ngogledd Cymru, gan ddatblygu technoleg sy'n gallu cael ei allforio a'i ddefnyddio ar draws y byd - technoleg ar blatfform cynaliadwy a fforddiadwy a all gyfrannu at ddisodli plastigau a darparu dewisiadau amgen ecogyfeillgar a chystadleuol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.