Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff wedi i ddyn 98 oed fynd ar goll yn Abertawe

20/08/2024
Reginald Rees

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff wedi i ddyn 98 oed fynd ar goll yr wythnos diwethaf. 

Fe aeth Reginald Rees o bentref Crofty yn Abertawe ar goll ar ôl iddo gael ei weld am y tro diwethaf yn gyrru car Renault Captur coch a du yn ei bentref, toc cyn 08.35 ddydd Mercher.  

Dywedodd y llu eu bod nhw wedi dod o hyd i gar o’r un disgrifiad a’i gerbyd ef ger arfordir Bae Rhosili. 

Image
Car Reginald Rees
Llun: Heddlu De Cymru

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd y llu eu bod nhw bellach wedi dod o hyd i gorff ym Mae Rhosili dros y penwythnos. 

Dywedodd yr heddlu fod teulu Mr Rees wedi cael gwybod. 

Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yma, meddai llefarydd.

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.