Newyddion S4C

Sŵ yn cynnal cystadleuaeth i enwi ei llewpard eira newydd

19/08/2024
Llewpard yr eira

Mae sŵ yng ngogledd Cymru yn cynnal cystadleuaeth i enwi ei aelod newydd prin.

Ar ddechrau mis Awst, fe wnaeth y Sŵ Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn gyhoeddi fod llewpard eira wedi cael ei eni yno am y tro cyntaf ers degawd.

Mae'r sŵ eisoes wedi dewis pedwar o enwau posib ar ei gyfer: Zephyr, Tai Lung, Layan, neu Qilian. 

Ond aelodau o'r cyhoedd fydd yn gyfrifol am ddewis ei enw.

Rhwng 16 Awst a 2 Medi, bydd pobl yn cael pleidleisio dros eu hoff enw ar wefan y sŵ drwy gyfrannu £1 at Ymddiriedolaeth y Llewpard Eira.

Yr enw sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn fuddugol, gyda 100% o’r arian yn mynd yn uniongyrchol i’r Ymddiriedolaeth.

Mae'r ymddiriedolaeth yn sefydliad di-elw sy'n gweithio i amddiffyn y llewpard eira a'i gynefin mewn 12 gwlad yng Nghanolbarth Asia.

'Gwych'

Dywedodd Chris Mitchell, Prif Swyddog Gweithredol y Sŵ Fynydd Gymreig: “Mae’n wych gweld yr aelod diweddaraf o’n teulu yn ffynnu, ac rydym yn falch i gyhoeddi o’r diwedd mai bachgen yw’r llewpard eira. Mae'n datblygu yn union fel y dylai, ac mae'n cynyddu mewn hyder bob dydd.

“Gyda chadarnhad o'i ryw, rydyn ni bellach wedi dewis pedwar enw rhyfeddol a symbolaidd ar gyfer ein llewpard newydd, gan gynnwys Zephyr, sy’n golygu gwynt ysgafn; Tai Lung, sy'n golygu draig fawr; Layan, cynrychiolydd yr Himalaya; a Qilian, sy'n golygu awyr.

“Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cyffro sydd gan bobl ynghylch yr aelod diweddaraf o’n teulu, ac rydym yn teimlo y byddai’r ymgyrch hon yn caniatáu i ymwelwyr ein helpu i ddewis enw gwych wrth godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth y Llewpard Eira.”

Llun: Tony Pope
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.