Newyddion S4C

Gweithredu cynllun brys i osgoi gorlenwi mewn carchardai wedi'r terfysgoedd diweddar

19/08/2024
Southport

Mae cynllun brys i osgoi gorlenwi mewn carchardai wedi cael ei roi ar waith wrth i fwy o derfysgwyr gael eu dedfrydu am yr anhrefn diweddar yn Lloegr.

Cafodd ymgyrch Early Dawn, cynllun sy’n caniatáu i ddiffynyddion gael eu cadw yng nghelloedd yr heddlu a pheidio â’u galw i’r llys ynadon nes bod lle yn y carchar ar gael, ei weithredu fore Llun, meddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae'r mesur ar waith yng ngogledd ddwyrain Lloegr a Sir Gaerefrog; Cumbria a Sir Gaerhirfryn; a Manceinion, Glannau Mersi a Sir Gaer.

Dywedodd y Gweinidog Carchardai a Phrawf, yr Arglwydd Timpson: “Fe wnaethon ni etifeddu system gyfiawnder mewn argyfwng ac oedd yn agored i siociau. 

"O ganlyniad, rydym wedi cael ein gorfodi i wneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol i'w gadw i weithredu.

“Ond diolch i waith caled ein staff ymroddedig a’n partneriaid, rydym wedi dod â lleoedd ychwanegol mewn carchardai ymlaen ac yn awr wedi cyflwyno Ymgyrch Early Dawn i reoli’r pwysau a deimlir mewn rhai rhannau o’r wlad.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nev Kemp, arweinydd dalfeydd gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu: “Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i reoli’r galw yn y system a sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel.

“Bydd plismyn yn parhau i arestio unrhyw un y mae angen iddyn nhw wneud hynny er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel, gan gynnwys plismona protestiadau a digwyddiadau a sicrhau bod pobol yn cael eu harestio yn ôl y disgwyl.”

Ar ôl y terfysgoedd a ddechreuodd ar draws Lloegr yn dilyn trywanu tair merch yn Southport, roedd cyfanswm o 460 o bobl wedi ymddangos mewn llysoedd ynadon mewn perthynas â’r anhrefn erbyn diwedd dydd Iau.

Cafodd Ymgyrch Early Dawn ei gweithredu’n flaenorol gan y llywodraeth Geidwadol ym mis Mai mewn ymgais i fynd i’r afael â gorlenwi mewn carchardai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.