Beiciwr modur mewn 'cyflwr difrifol' wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd
Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Nant Gwynant yng Ngwynedd brynhawn dydd Mercher.
Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A498 rhwng Pen y Gwryd a Beddgelert ychydig cyn 13:20.
Cafodd y beiciwr modur, sydd yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Gwynedd yn gyntaf, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd yn ddiweddarach.
Mae ei anafiadau wedi eu disgrifio fel rhai sydd yn peryglu ei fywyd.
Mae Uned Blismona'r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd wedi apelio am lygaid-dystion.
Dywedodd PC Daniel Edwards o'r uned: "Roedd gyrrwr y beic modur yn teithio i gyfeiriad Beddgelert ac rwy'n erfyn ar unrhyw un oedd yn teithio ar yr A498 am tua 13:00 sydd gyda lluniau dashcam i gysylltu gyda ni.
"Rydym hefyd yn deall fod nifer o bobl wedi aros yn lleoliad y ddamwain ond roeddynt wedi gadael cyn i ni gyrraedd felly rwy'n erfyn ar y bobl hyn i gysylltu gyda ni."
Dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd drwy ffonio 101 neu dros y we, gan ddefnyddio'r cyfeirnod 21000473941.