Carchar i ddyn o Fangor am guro dyn arall gyda thennyn ci
Carchar i ddyn o Fangor am guro dyn arall gyda thennyn ci
Mae dyn a ddefnyddiodd dennyn ci i guro dyn ar ei ben wedi cael ei garcharu.
Ymddangosodd Benjamin Crofts, o Ffordd Tan Y Bryn, Maesgeirchen, Bangor, yn Llys y Goron Caernarfon ar 14 Awst ar ôl cyfaddef i achosi niwed corfforol difrifol.
Yn ystod oriau mân y bore ar 1 Mai roedd ffrae rhwng Crofts a dyn arall ar Ffordd Caergybi, Bangor.
Roedd Crofts wedi defnyddio tennyn oddi ar goler ei gi a'i glymu o gwmpas ei law a churo'r dyn arall ar ei ben.
Syrthiodd y dyn yn ôl a tharo ei ben ar y pafin gan fynd yn anymwybodol.
Roedd Crofts wedi gadael lleoliad yr ymosodiad ond cafodd ei ddal a’i arestio gan swyddogion yr heddlu'n ddiweddarach.
Aeth y dyn arall i’r ysbyty lle cadarnhawyd bod ganddo waedlif ar yr ymennydd a’i fod wedi torri asgwrn ei benglog.
Derbyniodd Crofts ddedfryd o garchar am flwyddyn ac 11 mis.
Rhybuddiodd y Ditectif Rhingyll Jones fod ymosodiadau o'r math yma'n gallu bod yn angheuol.
“Nid yw trais o unrhyw fath yn dderbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef yng Ngogledd Cymru.
“Mi wnaeth ymddygiad Crofts achosi anafiadau difrifol a fydd yn cael effaith ar y dyn a’i deulu am amser hir.
“Gall un ergyd ladd, ac mae’n ffodus na chafodd neb eu lladd ar yr achlysur hwn.”