Newyddion S4C

Clwb Pêl-droed Hwlffordd yn rhan o gêm gyfrifiadurol newydd byd-eang

14/08/2024
Hwlffordd / Ronaldo

Mae Clwb Pêl-droed Hwlffordd wedi cyhoeddi partneriaeth gyda gêm bêl-droed gyfrifiadurol sy’n cael ei chefnogi gan Ronaldo.

Bydd yr Adar Gleision yn ymuno â chlybiau enwog ledled y byd, gan gynnwys AS Monaco, PSV Eindhoven a Beşiktaş, drwy fod yn rhan o’r gêm newydd, UFL.

Bydd y gêm ar gael i chwarae ar ddyfeisiau Playstation 5 ac Xbox Series XS, ac yn cael ei ryddhau fis Medi.

Fel yr unig dîm i gynrychioli’r Cymru Premier JD hyd yma, bydd pobl sy’n chwarae’r gêm yn gallu dewis chwarae fel Hwlffordd.

Bydd chwaraewyr yn gallu chwarae gemau mewn fersiwn ddigidol o Stadiwm Dôl y Bont, gan ddefnyddio crysau cartref neu oddi cartref a dewis pwy o’r garfan bresennol fydd yn chwarae.

Mae’r gêm, sydd yn boblogaidd yn y DU, Brasil, Yr Almaen, Ffrainc, yr UDA a Sawdi Arabia yn ôl y cwmni sydd wedi’i chreu, Strikerz Inc, hefyd yn cael ei hyrwyddo gan seren Portiwgal, Cristiano Ronaldo.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd tîm Hwlffordd yn cynnwys UFL fel noddwyr ar eu gwisg hyfforddi cyn eu gemau eleni.

Dywedodd Ben Tyler, Cyfarwyddwr Masnachol a Marchnata CPD Hwlffordd: “Rydym yn hynod gyffrous i fod yn bartner gydag UFL. Mae gallu dod â CPD Hwlffordd i gynulleidfa gemau byd-eang yn gam enfawr i ni.

“Ni'n methu aros i gefnogwyr hen a newydd fwynhau chwarae gyda'n cynnwys yn y gêm, sydd wedi ei drwyddedu’n llawn."

Ychwanegodd Aleksei Semenchenko, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Strikerz Inc: “Gydag UFL, y nod yw diddanu chwaraewyr gemau pêl-droed ond hefyd i gefnogi clybiau lled-broffesiynol a’u cefnogwyr selog.

“Rydym yn gyffrous i osod sylfaen ein cydweithrediad â Chlwb Pêl-droed Hwlffordd ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ehangu arno yn y dyfodol agos”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.