Newyddion S4C

Nifer y cwynion am wasanaethau cyhoeddus a chynghorwyr 'ar eu huchaf erioed'

15/08/2024
Doctor yn dal stethosgop a llun ar wahan o Michelle Morris

Mae nifer y cwynion am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad cynghorwyr lleol "ar eu huchaf erioed".

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod cynnydd o 37% yn nifer y cwynion newydd ers 2019.

Ond roedd y gost ar gyfer pob achos wedi gostwng o £489 i £432 eleni, meddai swyddfa'r Ombwdsmon.

Dywedodd y corff sydd yn ymchwilio i wasanaethau cyhoeddus yn ei adroddiad blynyddol bod swyddogion wedi delio gyda dros 10,000 achos eleni.

Roedd rhain yn cynnwys:

  • 939 o gwynion am Fyrddau Iechyd, cynnydd o 31% dros y pum mlynedd diwethaf.
  • 1,110 o gwynion am Gynghorau Lleol, cynnydd o 28% dros y pum mlynedd diwethaf.
  • 380 o gwynion am Gymdeithasau Tai, cynnydd o 47% dros y pum mlynedd diwethaf.

Dywedodd y corff eu bod wedi ymyrryd mewn 20% o'r achosion, sef cynnydd o 52% o gymharu â llynedd.

Triniaeth glinigol mewn ysbyty sy'n parhau i fod y pwnc gyda’r nifer uchaf o gwynion, sef 44% o'r holl gwynion iechyd meddai'r Ombwdsmon Cymru.

Yn ogystal, eleni fe gyhoeddodd yr Ombwdsmon wyth adroddiad lles y cyhoedd ar rai o'r cwynion mwyaf difrifol; roedd y rhain yn ymwneud â gofal iechyd a darparu llety i sipsiwn a theithwyr.

Dywedodd yr adroddiad fod  97% o sefydliadau wedi cydymffurfio ag argymhellion Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn.

'Blwyddyn effeithlon'

Yn ystod 2023/24, derbyniodd yr Ombwdsmon 518 o gwynion Cod Ymddygiad; cynnydd o 16% ers y llynedd.  

Roedd dros hanner y cwynion yn rhai newydd yn erbyn cynghorwyr mewn Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned, ac roedd 55% yn ymwneud â’r modd yr oedd cynghorwyr yn "hyrwyddo cydraddoldeb a pharch."

Nid yw'r corff yn gwneud canfyddiadau terfynol am dorri'r Côd Ymddygiad, yn lle hynny maen nhw'n cael eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r awdurdod lleol perthnasol, neu at Banel Dyfarnu Cymru.  

Roedd 21 atgyfeiriad o’r fath eleni.

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod delio gyda mwy o gwynion a lleihau cost ar gyfer pob achos yn dangos eu "cyfraniad sylweddol at wella" gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

"2023/24 fu ein blwyddyn fwyaf effeithlon – gwnaethom ddelio â mwy o gwynion nag erioed o’r blaen, lleihau’r costau ar gyfer pob achos ac ymchwiliad a llwyddo hefyd i leihau ein hachosion sy’n parhau dros flwyddyn o hyd.

"Bu ein staff ymchwilio a chefnogi yn gweithio’n galed i gyrraedd y targed hwn. Rydym wedi helpu mwy o bobl ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.