Cyfle i adfer coedwig law yn Sir Benfo
Cyfle i adfer coedwig law yn Sir Benfo
Na, nid yr Amazon ond Abergwaun. Ymhen hanner canrif, bydd y safle hwn yn goedwig law unwaith eto.
"Un goeden yw hon, yn y gorffennol fyddai wedi bod mwy ohonyn nhw. Ond fel chi'n gweld gyda'r goeden, mae 'na bethau'n tyfu arni hi.
"Felly, mae gynnon ni cen a gwahanol fathau o gen. Y gobaith yw ymhen y ganrif bydd coedwig law naturiol yma."
Mae'n debyg fyddai coedwigoedd law wedi bod ar draws y rhan fwyaf o arfordir gorllewinol Prydain, ond erbyn heddiw, dim ond olion sydd i'w gweld.
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn dweud fyddai coedwig law wedi bod ar y safle hwn yng Nghwm Gwaun.
Nawr, mae 'na gyfle i'w hadfer.
"Mae o'n wahanol i goedwigoedd cyffredin achos mae'n wlyb iawn. Mae o'n tyfu mewn ardaloedd lle mae'n 'na lot o law. Mae'n gartref i rywogaethau prin iawn o gen a mwswgl ac adar ac anifeiliaid.
"Mae plannu mwy o goed yn mynd i helpu efo llifogydd, yn helpu hefo glanhau dŵr a helpu efo glanhau'r awyr."
Yn ôl y ffigyrau, 640 hectar o goetir chafodd ei greu y llynedd... ..ychydig dros 12% o darged Llywodraeth Cymru. Gyda'r cynllun hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir... ..ydy e wedi dod yn rhy hwyr i'n hargyfwng hinsawdd?
"Mae natur yn dda iawn yn adfer ei hun. Weithiau, os ydyn ni'n gadael natur i wneud ei waith bydd natur yn dod yn ôl i lefydd lle mae diwydiannau wedi bod, neu lle mae 'na dir amaeth sydd wedi mynd yn hesb.
"Mae natur yn gallu dod yn ôl hyd yn oed heb lot o waith gan bobl. Ond os oes gyda ni'r adnoddau i roi i'r gwaith yma, gorau oll."
Mae plannu coed wedi bod yn bwnc llosg ym myd amaeth gyda golygfeydd fel hyn ar draws y wlad yn gynharach eleni ers cyfnod ymgynghori Cynllun Ffermio Cynaliadwy y Llywodraeth.
"Ni ddim yn targedu tir sy'n dda ar gyfer amaethyddiaeth. "ir sydd ddim yn gynhyrchiol iawn ydy'r tir yma. Ni eisiau cydweithio efo ffermwyr a chymunedau fel bod ni'n gallu plethu'r pethau yma efo'i gilydd, bod ni'n gallu cael gwell ansawdd a gwell cynefinoedd i fywyd gwyllt."
Bydd y dasg o ddechrau plannu hadau yma yn dechrau blwyddyn nesaf. A'r gobaith yw y bydd pobl yn gallu dod am dro i'r goedwig law am ganrifoedd i ddod.