Newyddion S4C

Rhieni bachgen o Sir Gâr oedd yn ddifrifol wael yn codi arian i ddangos eu gwerthfawrogiad

14/08/2024
Deio.png

Mae rhieni bachgen o Sir Gâr oedd yn ddifrifol wael yn codi arian i uned babanod Ysbyty Singleton yn Abertawe i ddangos eu gwerthfawrogiad.

Mae Rhys a Gemma Davies o Lanymddyfri wedi codi bron i £4,000 ar gyfer elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cwtsh Clos wedi i'w mab, Deio, gael ei drin yno y llynedd.

Mae elusen Cwtsh Clos yn gobeithio codi £160,000 i adnewyddu pum cartref i deuluoedd â babanod sâl yn Uned Gofal Dwys Newydd-anedig Ysbyty Singleton.

Doedd Deio ddim yn anadlu pan gafodd ei eni yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac fe gafodd ei gludo i'r Uned Gofal Dwys yn Abertawe.

Erbyn hyn, mae Deio yn 15 mis oed ac yn holliach, ond mae'r teulu yn awyddus i ddangos eu gwerthfawrogiad. 

Dywedodd tad Deio, Rhys Davies: "Doedd Deio ddim yn anadlu yn Ysbyty Glangwili ac fe wnaethom ni dreulio 10 diwrnod a naw noson yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Singleton."

'Golygu cymaint'

Gan fod y teulu yn byw yn Llanymddyfri, maent yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd cael llety Cwtsh Clos ar gael i bobl sydd ddim yn byw yn agos at yr ysbyty.

"Byddai teithio yn ôl ac ymlaen o Lanymddyfri wedi bod yn hunllef," ychwanegodd Mr Davies. 

"Roeddem ni'n gallu mynd i mewn unrhyw adeg o'r dydd i edrych amdano, felly roedd yn anhygoel.

"Yn amlwg, rydych chi'n poeni. Ro'n i'n deffro ambell fore am 03:30 ac yn gallu mynd ato i afael yn ei law am gyfnod. 

"Dyna'r pethau bychain. Oni bai eich bod chi wedi bod yn y sefyllfa, dydych chi ddim yn mynd i wybod cymaint y mae'n ei olygu."

I ddiolch am eu hymdrechion, fe gafodd y teulu eu gwahodd i gêm gyfeillgar rhwng Abertawe a Rio Ave o Bortiwgal gyda chwiorydd Deio yn cael eu dewis fel mascots am y diwrnod. 

Daw hynny wedi i Glwb Pêl-droed Abertawe ddewis apêl Cwtsh Clos fel eu partner elusennol swyddogol ar gyfer tymor 2024-25.

Ychwanegodd Mr Davies: "Roedd y chwaraewyr i gyd mor groesawgar, gan ofyn iddyn nhw sut oedd pethau'n mynd yn yr ysgol ac o le yr oeddem ni'n dod. Fe gawson nhw ddiwrnod arbennig, ac fe fydd yn aros yn y cof am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.