Tri dyn o Gwm Rhondda wedi eu cyhuddo o annog casineb hiliol
13/08/2024
Mae tri dyn o Gwm Rhondda wedi eu cyhuddo o annog casineb hiliol.
Mae Geraint Boyce, 43; Jamie Michael, 45, a Daffron Williams, 40, yn dod o Donypandy.
Mae'r tri wedi eu cyhuddo o gyhoeddi deunydd bygythiol ar eu cyfrifon Facebook, gyda'r bwriad o annog casineb crefyddol.
Ymddangosodd y tri yn Llys y Goron Merthyr, ac fe blediodd Geraint Boyce a Daffron Williams yn euog i'r cyhuddiad yn eu herbyn.
Mae disgwyl i'r ddau gael eu dedfrydu ddydd Gwener 16 Awst.
Plediodd Jamie Michael yn ddieuog a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr, ddydd Gwener 23 Awst.
Mae'r tri wedi eu cadw yn y ddalfa tan eu gwrandawiad nesaf.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru bod tri arall wedi eu harestio ar amheuaeth o arddangos deunydd bygythiol a allai annog casineb hiliol.
Mae dyn 27 oed o Benarth, Bro Morgannwg wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth tan ddechrau mis Tachwedd wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Ac mae dynes 33 oed a dyn 39 oed o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi eu rhyddhau ar fechniaeth tan fis Tachwedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: "Rwy'n gobeithio bod ein hymateb cyflym i'r digwyddiadau hyn yn anfon neges glir bod y canlyniadau'n ddifrifol ar gyfer y rhai sy'n credu bod modd iddyn nhw gyhoeddi negeseuon cas a hiliol."
Daw'r achosion diweddaraf yng Nghymru wrth i ddegau ymddangos mewn llysoedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn cyswllt â therfysgoedd mewn nifer fawr o ddinasoedd a threfi.
Dechreuodd y gwrthdaro wedi i dair merch gael eu lladd yn Southport ar Lannau Mersi ddiwedd mis Gorffennaf.
Cafodd Alice Dasilva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu trywanu i farwolaeth tra roedden nhw mewn dosbarth dawns.
Mae dyn ifanc 17 oed, Axel Rudakubana, wedi ei gyhuddo o'u llofruddio.